Os ymleddir yr etholiad, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu gyhoeddi hysbysiad etholiad ar gyfer ardal yr heddlu erbyn y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf.
Dylai Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu roi copi o'r hysbysiad i chi y gallwch ei gyhoeddi wedyn yn lleol yn eich ardal bleidleisio. Dylech hefyd ddarparu dolen o'ch gwefan i wefan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu lle y caiff yr hysbysiad ei gyhoeddi neu ddarparu copi yn uniongyrchol ar eich gwefan fel y gall etholwyr yn yr ardal bleidleisio gael gafael arno'n hawdd.