Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Swyddog Canlyniadau Lleol – sgiliau a gwybodaeth

Dylech feddu ar wybodaeth ymarferol am y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r ffordd y caiff yr etholiad ei gynnal. Felly, yn ogystal â dealltwriaeth glir o'ch swyddogaethau statudol, dylai fod gennych drosolwg o'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnwys a dealltwriaeth o'r ffordd y mae'n effeithio ar y broses o weinyddu'r etholiad, fel y gallwch adolygu'r broses gyfan, ei chwestiynu lle bo angen, a sicrhau ei hansawdd.

Mae cyfrifoldebau rheoli yn gysylltiedig â'ch rôl. Er enghraifft:

  • mynnu cael y staff a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal etholiad trefnus 
  • sicrhau'r cymorth, y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol o bob rhan o'ch awdurdod lleol eich hun
  • goruchwylio'r broses o gynllunio, rheoli prosiect a rheoli risg yr etholiad ac ymgorffori unrhyw wersi a ddysgwyd o etholiadau blaenorol
  • nodi a goruchwylio unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn lliniaru unrhyw faterion sy'n codi
  • sicrhau y caiff staff eu hyfforddi'n briodol i gyflawni eu priod rolau
  • cefnogi'r staff sy'n gweinyddu'r etholiad a goruchwylio eu gwaith yn briodol
  • cyfarwyddo staff, monitro cynnydd a chael adborth rheolaidd ar weithgareddau
  • os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu hefyd, cynnal cydberthynas waith effeithiol â'r unigolyn hwnnw
  • os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, cynnal cydberthynas waith effeithiol â'r unigolyn hwnnw
  • cynnal cydberthynas waith effeithiol â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu
  • sicrhau y caiff cyfrifon etholiadau eu cwblhau mewn modd amserol
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2023