Fel Swyddog Canlyniadau Lleol, rydych yn chwarae rhan ganolog yn y broses ddemocrataidd. Eich rôl chi yw sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol, yn unol â'r gyfraith, ac, o ganlyniad, bod profiad pleidleiswyr a'r rhai sy'n sefyll mewn etholiad yn gadarnhaol. I wneud hyn, bydd angen i chi ddilyn system effeithiol ar gyfer cydgysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol cyfagos a'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu.
Ar gam cynnar, dylech amlinellu'r hyn y mae pob un ohonoch am ei gyflawni a sut beth fyddai llwyddiant i chi.
Fel Swyddog Canlyniadau Lleol, yn eich ardal bleidleisio, mae gennych gyfrifoldeb personol am y ffordd y caiff yr etholiad ei gynnal, gan gynnwys:
dilysu a chyfrif y pleidleisiau yn eich ardal bleidleisio (oni bai bod Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wedi rhoi gwybod y bydd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn)4
trosglwyddo cyfanswm lleol yr ardal bleidleisio i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu5
Mae eich dyletswyddau fel Swyddog Canlyniadau Lleol ar wahân i'ch dyletswyddau fel swyddog llywodraeth leol. Fel Swyddog Canlyniadau Lleol, nid ydych yn atebol i'r awdurdod lleol ond rydych yn uniongyrchol atebol i'r llysoedd fel deiliad swydd statudol annibynnol.
Er y gallwch benodi un unigolyn neu fwy i gyflawni unrhyw un o'ch swyddogaethau fel Swyddog Canlyniadau Lleol neu bob un ohonynt, ni allwch ddirprwyo'ch cyfrifoldeb personol am gynnal yr etholiad.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar benodi dirprwyon.
Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu
Y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n gyfrifol am y ffordd y caiff etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gynnal yn gyffredinol, ac am gydgysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu a chyd-drefnu eu gwaith.
Mae gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu y pŵer i roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ymwneud â chyflawni eu swyddogaethau yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Lleol gymryd camau paratoadol penodol neu roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt neu y mae ganddynt yr hawl i'w chael.
Mae ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau deiliad y swydd hon.
Etholaethau trawsffiniol
1. Paragraff 26 a 29 Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012)↩ Back to content at footnote 1