Mae’n rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad ar gyfer yr etholaeth ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.1
Hefyd, mae’n rhaid i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol (EMB) gyhoeddi pob hysbysiad etholiad ar y platfform gwybodaeth am etholiadau. Bydd yn rhoi gwybodaeth ichi ynghylch pa ddata y bydd angen ichi ei ddarparu, a’r fformat gofynnol. Yn ogystal â hynny, gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol ddatgan neu argymell pryd y dylid cyhoeddi’r hysbysiad etholiad. Am ragor o wybodaeth, gweler ei wefan.
Rhaid i hysbysiad yr etholiad gynnwys y canlynol:2
y lle neu’r lleoedd a’r amseroedd y gellir cael y papurau enwebu a gwybodaeth am sut a phryd y gellir cael papurau enwebu ar-lein
y lle neu’r lleoedd a’r amseroedd ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
datganiad cyflwyno electronig
pan rydych wedi penderfynu derbyn taliadau electronig, y trefniadau ar gyfer talu ernesau yn electronig
dyddiad y bleidlais os caiff yr etholiad ei herio
y dyddiad y mae’n rhaid i bob cais am bleidleisiau absennol (gan gynnwys pleidleisiau dirprwyon brys) ac unrhyw achos o ganslo neu newid trefniadau pleidleisio absennol cyfredol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn bod ar waith ar gyfer yr etholiad
Dylai’r hysbysiad hefyd gynnwys y dyddiad y mae’n rhaid i geisiadau ar gyfer cofrestru gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn bod ar waith ar gyfer yr etholiad.
Dylai’r cyfeiriad(au) a roddwyd ar gyfer cyflwyno’r papurau enwebu fod yn union a chynnwys unrhyw rif ystafell yn eich swyddfeydd. Dylech roi gwybod i holl staff derbynfa yn swyddfeydd yr adeilad ac adeiladau cysylltiedig eraill na ddylent dderbyn unrhyw bapurau enwebu.
Datganiad cyflwyno electronig
Mae’r datganiad cyflwyno electronig a nodir yn yr hysbysiad etholiad yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar ymgeiswyr unigol a phleidiau i allu cyflwyno enwebiadau yn electronig. Mae gan ein canllaw ar gynnwys y datganiad cyflwyno electronig ragor o wybodaeth
Etholaethau trawsffiniol
Pan mae etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech ddarparu unrhyw awdurdod lleol yn yr etholaeth â chopi o’r hysbysiad etholiad i’w gyhoeddi yn lleol.