Bydd angen i chi roi manylion am y trefniadau sydd gennych ar waith i reoli enwebiadau electronig ar ddatganiad cyflwyno electronig. Rhaid nodi’r trefniadau hyn gyda’r hysbysiad etholiad.
Gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad drwy:1 • eu hanfon yn electronig i gyfeiriad e-bost • eu cyflwyno ar-lein
Yn y datganiad cyflwyno electronig, dylech roi manylion am unrhyw ofynion penodol sydd gennych o ran cyflwyno’n electronig. Er enghraifft, y cyfeiriad(au) e-bost penodol y mae’n rhaid eu defnyddio, unrhyw gyngor ar sut dylid labelu negeseuon e-bost neu unrhyw ofynion ynghylch fformat atodiadau e-bost ac ati.
Rydym wedi cynhyrchu templed hysbysiad etholiad sy’n cynnwys y datganiad cyflwyno electronig sy’n amlygu peth o’r wybodaeth y dylech ystyried ei chynnwys.
Gallwch ddod o hyd i’r templed hysbysiad etholiad hwn yn adran enwebiadau ein tudalen adnoddau.