Fel rhan o’ch gwaith cynllunio, byddwch wedi penderfynu a fydd y gwaith o gynhyrchu deunyddiau pleidleisio drwy’r post a darparu pleidleisiau drwy'r post yn cael ei wneud yn fewnol neu’n allanol. Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol roi cyfarwyddiadau neu argymhellion ar gyfer cynhyrchu deunydd pleidleisiau post a darparu pleidleisiau post.
Yn ogystal, rhaid i chi roi gwybodaeth gyfarwyddiadol sy’n sicrhau bod y rheini sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post yn gallu cael:
cyfieithiadau i ieithoedd eraill o unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonwyd gyda’r papur pleidleisio
cyfieithiad Braille o gyfarwyddiadau neu ganllawiau o'r fath
cynrychiolaeth raffigol o gyfarwyddiadau neu ganllawiau o’r fath
y cyfarwyddiadau neu'r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy)
Etholaethau Trawsffiniol
Lle mae etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol , bydd angen i chi bennu a yw eich system feddalwedd yn gallu darllen y data a ddarparwyd gan yr awdurdod/awdurdodau lleol eraill yn gywir.
Bydd angen i chi hefyd sicrhau eich bod yn gallu rhoi’r data i'r argraffwyr er mwyn cynhyrchu deunyddiau pleidleisio drwy’r post. Bydd angen i chi gysylltu ag unrhyw awdurdodau lleol eraill cyn gynted ag y bo modd.
1. Paragraff 11, Atodlen 2 a rheol 32, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025↩ Back to content at footnote 1