enwau neu ddisgrifiadau’r pleidiau gwleidyddol, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr a nodir ar restrau’r pleidiau hynny a’r gair Cymru, Cymreig, Wales neu Welsh os yw plaid wleidyddol wedi dewis ei ddefnyddio yn enw’r blaid gofrestredig
enwau’r ymgeiswyr unigol, ynghyd â’r geiriau annibynnol / independent fel sy’n briodol
Rhaid i’r ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr plaid ymddangos ar y papur pleidleisio yn y drefn y maent wedi’u rhestru ar y datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd a rhaid argraffu eu manylion perthnasol yn unol â’r cyfarwyddiadau argraffu.1
Rhaid i gyfenwau ymgeiswyr unigol ymddangos mewn priflythrennau, gan gynnwys priflythrennau cyfenwau sy’n dechrau gyda MAC neu MC a dylai’r enwau gadw'n gaeth at drefn yr wyddor e.e. MABBOT, MACLEAN, MATTHEWS, MCCORMICK, MORRISON. Rhaid i enwau eraill fod mewn llythrennau bychain gyda’r llythyren gyntaf yn unig mewn priflythyren.
Pan fydd ymgeisydd wedi rhestru sawl enw fel ei gyfenw, naill ai wedi'i gysylltnodi neu beidio, dylech atgynhyrchu'r enw cyfan fel y'i darperir. Er enghraifft, byddai Dick Van Dyke yn ymddangos fel VAN DYKE, Dick ar y papur pleidleisio, ac at ddibenion trefn yr wyddor byddai ei gyfenw'n dechrau gyda V.
Yn yr un modd, byddai Ann Smith-Jones yn SMITH-JONES, Ann ar y papur pleidleisio, a byddai’n cael ei restru fel S at ddibenion trefn yr wyddor.
Rhaid i enwau ymgeiswyr rhestr plaid ymddangos mewn maint llai nag enw’r blaid ei hun, mewn llythrennau bychain gyda’r llythyren gyntaf yn unig mewn priflythyren.
Gall cyflwyniadau rhestr plaid wneud cais i ddefnyddio arwyddlun plaid ar y papur pleidleisio. Yn yr achosion hyn, gallwch gael copi eglurder uchel o’r arwyddlun i'w ddefnyddio wrth argraffu papurau pleidleisio. Fel arall, efallai bydd angen i chi lawrlwytho’r arwyddlun o’n gwefan. Dylech sicrhau bod pa bynnag gopi a ddefnyddir ar yr un ffurf â’r arwyddlun cofrestredig.
Maint mwyaf arwyddlun ar y papur pleidleisio yw dau gentimetr sgwâr. Peidiwch â newid na gwyrdynnu siâp yr arwyddlun i’w ffitio ar y papur pleidleisio. Dylech sicrhau bod yr arwyddlun ar yr un ffurf â’r arwyddlun cofrestredig - er enghraifft, peidiwch ag ymestyn arwyddluniau i siapiau sgwâr os nad ydynt wedi’u cofrestru fel delweddau sgwâr ar ein gwefan, gan y byddai hyn yn newid eu hedrychiad.