Unwaith bod eich deunyddiau etholiad wedi'u cynhyrchu, bydd angen i chi sicrhau bod eich holl ddeunyddiau wedi cael eu hargraffu, eu casglu ynghyd a'u paratoi ar gyfer eu hanfon at etholwyr, neu eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, heb unrhyw wallau.
Dylid cynnal gwiriadau sicrhau ansawdd cyn gynted â phosibl i atal unrhyw oedi yn y broses paratoi ac anfon.
Gwirio pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi cyn eu hanfon
Dylai gwiriadau sicrhau ansawdd pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi gynnwys gwirio'r canlynol:
bod rhifau'r papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'w gilydd,
bod enwau/cyfeiriadau wedi'u personoli yn ymddangos yn unol â'r disgwyl mewn ffenestri,
bod pob pecyn yn cynnwys yr eitemau cywir (e.e. bod y papurau pleidleisio cywir a'r amlen ateb gywir wedi cael eu cynnwys)
Dylech gynnal hapwiriadau o'r holl becynnau er mwyn sicrhau bod trawstoriad cynrychioliadol wedi cael ei wirio, gydag o leiaf ddau becyn o bob swp o 250 o becynnau sy'n cyfateb yn fras i ‘fasged’ Post Brenhinol lawn.
Dylech gadw llwybr archwilio clir o'r gwaith prawfddarllen a'r prosesau sicrhau ansawdd a ddilynwyd naill ai gan eich staff neu gan eich cyflenwr, fel y gallwch gyfeirio'n ôl ato os bydd unrhyw beth yn codi wedyn.
Pan fyddwch yn cael y llyfrau papurau pleidleisio wedi'u hargraffu, cyn i unrhyw bapurau pleidleisio gael eu dosbarthu i orsaf bleidleisio, dylech wirio'r canlynol:
bod y papur pleidleisio cyntaf ac olaf ym mhob llyfr
bod rhifau'r papurau pleidleisio ym mhob llyfr neu becyn yn rhedeg mewn trefn
bod pob manylyn ar y papur pleidleisio wedi'i sillafu'n gywir
bod pob enw/disgrifiad plaid wedi’i argraffu yn y llinell ar gyfer y rhestr plaid gywir
bod pob arwyddlun y gofynnwyd amdano’n ddilys wedi’i gynnwys wrth ymyl y rhestr blaid gywir ac yn cyfateb i gofnod y Comisiwn
bod pob disgrifiad ymgeisydd wedi cael ei argraffu yn y llinell ar gyfer yr ymgeisydd cywir
bod y cyfarwyddiadau pleidleisio ar frig y papur pleidleisio yn cyfateb i'r gofynion deddfwriaethol
bod y papurau pleidleisio wedi cael eu torri i'r maint cywir