Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Amodau cymhwyso

Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr rhaid i chi fod:

  • yn 18 mlwydd oed o leiaf1
  • yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd yng Ngweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad2

Dinesydd cymwys o'r Gymanwlad yw dinesydd o'r Gymanwlad:

  • nad oes angen caniatâd arnynt i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno, neu
  • sydd â chaniatâd penagored i aros yn y Deyrnas Unedig.

Nid yw dinasyddion o wledydd eraill yn gymwys i ddod yn Aelod o Senedd y DU.

Nid oes unrhyw ofyniad yn ôl y gyfraith i chi fod yn etholwr cofrestredig yn y DU.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023