Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Anghymwysiadau

Ar wahân i fodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer sefyll etholiad, rhaid i chi sicrhau hefyd nad ydych wedi eich anghymhwyso.

Mae'r ystod lawn o anghymwysiadau yn gymhleth ac os oes unrhyw amheuaeth gennych ynghylch p'un a ydych wedi eich anghymhwyso, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso cyn cyflwyno eich papurau enwebu.

Rhaid i chi sicrhau nad ydych wedi eich anghymhwyso oherwydd gofynnir i chi lofnodi un o'r papurau enwebu sy'n ofynnol er mwyn cadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso.1
  
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu2  o'ch cymhwyster ar gyfer cael eich ethol, felly os oes unrhyw amheuaeth gennych, dylech gysylltu â'ch cyflogwr, ymgynghori â'r ddeddfwrfa neu, os oes angen, ceisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
  
Ni fydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gallu cadarnhau a ydych wedi eich anghymhwyso ai peidio.

Mae rhai pobl sydd wedi'u hanghymwyso rhag dod yn Aelod Seneddol ym Mhrydain Fawr. Ni allwch fod yn ymgeisydd os yw'r canlynol yn wir ar adeg eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:  

  • Rydych yn ddeiliad swydd sydd wedi'i hanghymwyso rhag dod yn Aelod Seneddol.3  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Swyddi anghymhwysol.
  • Rydych yn destun cyfyngiadau methdaliad.4  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Fethdaliad.
  • Rydych wedi cael eich dedfrydu i gyfnod yn y carchar neu eich cadw am flwyddyn neu fwy ac rydych wedi cael eich cadw unrhyw le yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu os ydych yn rhydd yn anghyfreithlon.5  Mae enwebu unigolyn a gafodd ei anghymhwyso ar y sail hon yn ddi-rym, a bydd hawl gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod ei bapur enwebu.6
  • Rydych wedi cael eich anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cwmpasu arferion etholiadol llwgr neu anghyfreithlon a throseddau yn ymwneud â rhoddion). Mae anghymhwyso rhywun am arfer anghyfreithlon yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu, ac mae'n para am dair blynedd.7   Mae anghymhwyso rhywun am arfer lwgr yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu ac mae'n para am bum mlynedd.8
  • Rydych wedi cael eich euogfarnu o drosedd fygythiol a ysgogwyd gan ymddygiad gelyniaethus tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol.9  Effaith gorchymyn anghymhwyso yw y caiff y person ei anghymhwyso rhag sefyll ar gyfer swydd etholiadol berthnasol, dal na chael ei ethol i swydd o'r fath am bum mlynedd. 
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Tachwedd 2024