Dyrennir chwe sedd i bob etholaeth i'w llenwi. Bydd y seddi’n cael eu dyrannu ar sail nifer y pleidleisiau y mae pob ymgeisydd unigol neu blaid yn eu cael, gan ddefnyddio fformiwla fathemategol d’Hondt. 1
Mae’r fformiwla hon yn gweld nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth ar gyfer pob plaid yn cael ei rhannu â nifer y seddi etholaethol y maent wedi’u hennill, plws un. Ni chaiff cyfanswm pleidleisiau'r ymgeiswyr unigol eu rhannu ar unrhyw adeg. Yn syml, maent yn ennill sedd os oes ganddyn nhw’r cyfanswm uchaf o bleidleisiau yn unrhyw rownd.
Mae cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi’u bwrw ar gyfer pob plaid a phob ymgeisydd unigol yn cael ei adnabod fel y ffigwr dyraniad seddi ar gyfer yr ymgeisydd unigol neu’r blaid honno.2
Dyrannir y sedd gyntaf i’r ymgeisydd unigol neu’r blaid gofrestredig sydd â’r ffigwr dyraniad seddi uchaf.3
Cyfrifir dyraniadau'r ail i'r chweched sedd gan rannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a gafodd pob plaid neu ymgeisydd unigol gyda nifer y seddi sydd eisoes wedi'u dyrannu iddo. Ar ôl i ymgeisydd unigol gael sedd, neu ar ôl i blaid gael cynifer o seddi ag sydd ar gael ar ei rhestr, byddant yn cael eu tynnu o’r cyfrifiad ar gyfer dyrannu’r seddi sy’n weddill.4
Ailgyfrifo
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhannu’r canlyniad heb ei gadarnhau gyda’r asiant etholiad ar gyfer pob plaid wleidyddol gofrestredig neu, yn absenoldeb yr asiant, un o’r ymgeiswyr rhestr plaid, pob ymgeisydd unigol neu eu hasiant.5
Gall asiant etholiad neu ymgeisydd unigol ofyn i’r Swyddog Canlyniadau ailgyfrifo’r canlyniad. Gall y Swyddog Canlyniadau wrthod gwneud hynny os yw’r cais yn afresymol.6
Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar y cam hwn i ofyn am ailgyfrif pleidleisiau.
Pleidleisiau cyfartal
Os yw’r ffigwr dyraniad seddi uchaf yr un fath ar gyfer dau neu ragor o bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr unigol, rhaid i’r Swyddog Canlyniadau benderfynu rhyngddyn nhw drwy ddewis ar hap.7