Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Rhoddion i ymgeiswyr sy’n dal swydd etholedig
Os ydych chi'n Aelod o'r Senedd ar hyn o bryd neu'n dal swydd etholiadol arall, mae'n ofynnol i chi hefyd ddilyn cyfreithiau ynghylch rhoddion a benthyciadau a gewch mewn cysylltiad â'ch gweithgareddau gwleidyddol fel deiliad swydd etholiadol.1 Gallai hyn gynnwys rhoddion tuag at gynnal eich swyddfa, gwaith llywodraethol a gweithgareddau gwleidyddol plaid.
Os ydych chi'n Aelod o'r Senedd, bydd hyn yn cynnwys rhoddion a benthyciadau a gawsoch tuag at eich ail-etholiad i'r Senedd cyn i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw ar y dyddiad y caiff y Senedd ei diddymu. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol yn ogystal â'ch rhwymedigaethau i ddatgan buddiannau i'r Gofrestr Diddordebau Aelodau.
Os ydych chi'n casglu rhoddion, rydym yn argymell eich bod yn glir ynghylch a yw arian yn cael ei godi yn rhinwedd eich swydd fel Aelod o'r Senedd, neu i fodloni gwariant ymgyrchu eich plaid. Rhaid adrodd ar roddion a wneir tuag at wariant ymgyrchu’r blaid fel rhoddion plaid. Unwaith y bydd y Senedd wedi'i diddymu, a'ch bod wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, rhaid adrodd ar roddion a benthyciadau a gewch tuag at eich ail-etholiad fel rhoddion a benthyciadau i'ch plaid.
Os ydych chi'n derbyn rhoddion a benthyciadau i'r blaid, dylech chi roi'r manylion i'ch plaid a dilyn gweithdrefnau eich plaid ar gyfer rhoddion a benthyciadau. Trysorydd y blaid sy'n gyfrifol am roi gwybod i ni am roddion a benthyciadau'r blaid. Nodir isod y gofynion caniatâd ac adrodd ar gyfer deiliaid swyddi etholiadol.
Deiliaid swydd etholedig yw:2
- aelod o Senedd Cymru
- aelod o Senedd yr Alban
- aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
- maer awdurdodau cyfun
- aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, heb gynnwys cynghorau plwyf neu gymuned
- aelod o Gynulliad Llundain Fawr
- Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Gofynion caniatâd ac adrodd ar gyfer deiliaid swyddi etholiadol
Gall deiliaid swydd etholiadol dim ond derbyn rhodd neu ymrwymo i fenthyciad o fwy na £500 a wneir mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol os y’i gwneir gan neu gyda ffynhonnell a ganiateir.3 Rhaid i chi wirio a oes caniatâd cyn ymrwymo i fenthyciad ac mae gennych 30 diwrnod o dderbyn rhodd i gynnal gwiriadau caniatâd a'i dychwelyd os nas caniateir.4 Rydym yn cyfeirio at roddion a benthyciadau gyda'i gilydd fel buddion.
Rhaid i chi roi gwybod i ni am fuddion pryd bynnag y bydd cyfanswm y rhoddion a ganiateir a dderbynnir neu'r benthyciadau a ymrwymwyd iddynt o'r un ffynhonnell yn fwy na £2,230.5 Gall hyn fod yn un rhodd neu fenthyciad o dros £2,230, neu fuddion lluosog sy’n dod i gyfanswm o fwy na £2,230. Rhaid i chi roi gwybod am hyn o fewn 30 diwrnod o gyrraedd y trothwy adrodd.6 Wrth adio buddion o’r un ffynhonnell dylech dim ond cynnwys rhoddion a benthyciadau sydd dros £500.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am bob rhodd nas caniateir a dderbyniwyd a benthyciadau a ymrwymwyd iddynt gyda gwerth dros £500 o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y gwnaethoch ei ddychwelyd neu ei fforffedu.7 Nid oes angen i chi adio buddion nas caniateir.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am newidiadau i fenthyciadau a ganiateir yr ydych eisoes wedi rhoi gwybod i ni amdanynt.8
Gellir dod o hyd i'r rhestr o ffynonellau a ganiateir a chanllawiau pellach ar ein gwefan.
- 1. Atodlen 7, paragraff 1(3)(c) ac Atodlen 7A, paragraff 2(8)(c) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, para. 1(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, para. 2(1), para. 4(3)(b), para. 6(1) ac Atodlen 7A, para. 2(1)-(4), para. 4(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, para. 8(1), Atodlen 7A, para. 4(1) ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, para. 10(1A) ac Atodlen 7A, para. 9(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, para. 10(2) ac Atodlen 7A, para. 9(7) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7, para. 11(1) ac Atodlen 7A, para. 10(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 7A, para. 11 PPERA ↩ Back to content at footnote 8