Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau teithio a byw rhesymol yr ymgeisydd at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas ag ef.1
Mae treuliau personol yn adroddadwy drwy gydol y cyfnod a reoleiddir. Unwaith y byddwch yn ymgeisydd yn swyddogol, dim ond cyfanswm o hyd at £900 y gallwch ei dalu mewn treuliau personol. Rhaid i drysorydd eich plaid dalu unrhyw symiau sydd uwch na’r swm hwn.2
Nid oes terfyn ar faint y gall ymgeiswyr ei dalu am dreuliau personol cyn iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Gall treuliau personol gynnwys:
trafnidiaeth gyhoeddus neu gostau tacsis
prynu tanwydd ar gyfer cerbyd neu wefru cerbyd trydan
llogi car os nad ydych eisoes yn berchen ar gar, neu os nad yw'n addas ar gyfer ymgyrchu
aros mewn gwesty
Ar gyfer rhai treuliau personol, bydd angen i chi amcangyfrif cyfran eich costau sy'n briodol i'r etholiad. Er enghraifft, os ydych yn berchen ar gar, mae'n debygol y bydd rhai o'r costau tanwydd neu wefru yn ystod cyfnod yr etholiad at ddibenion eraill. Dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o'r costau hyn.
Ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn y cartref, lle nad oes anfoneb benodol ar gyfer gwefru, gallwch amcangyfrif y gost drwy:
cymharu capasiti batri'r cerbyd â'ch cost fesul uned o drydan, a rhoi gwybod am amcangyfrif o faint o wefriadau llawn sy'n briodoladwy i'r etholiad, neu
cymharu milltiroedd eich cerbyd fesul uned o drydan â'ch cost fesul uned o drydan, a rhoi gwybod am amcangyfrif o'r milltiroedd sy'n briodoladwy i'r etholiad