Mae’r mwyafrif o bobl yn dewis pleidleisio wyneb yn wyneb yn eu gorsaf bleidleisio. Gall unrhyw berson ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fwrw pleidlais yn yr orsaf bleidleisio mewn etholiad Senedd, oni bai:
ei fod yn bleidleisiwr post cofrestredig
ei fod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig ac mae ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran drwy'r post
ei fod yn iau nag 16 mlwydd oed ar y diwrnod pleidleisio
ei fod wedi cofrestru fel etholwr tramor.
Bydd etholwyr yn cael cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthynt ble a phryd y gallant bleidleisio. Nid oes angen i etholwyr fynd â’u cerdyn pleidleisio i’r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio, oni bai eu bod wedi’u cofrestru’n ddienw oherwydd risgiau i’w diogelwch.
Dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy’r post
Ni ellir rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr post cofrestredig yn yr orsaf bleidleisio, ond gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau i’w gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth neu drwy ei rhoi trwy law i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy.
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy’r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff yr orsaf bleidleisio ac ni ddylid eu rhoi yn y blwch pleidleisio.