bod unrhyw gyngor ychwanegol ar ddiogelwch a ddarparwyd gan y Swyddog Canlyniadau yn cael ei ddilyn
y cydymffurfir ag unrhyw geisiadau gan staff gorsafoedd pleidleisio a swyddogion canlyniadau o ran ymgyrchu wrth orsafoedd pleidleisio –
bod unrhyw asiantiaid sy’n mynd i orsafoedd pleidleisio, sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post neu’r cyfrif yn deall y rheolau o ran cyfrinachedd y bleidlais - am ragor o wybodaeth, gweler ein dogfennau sy’n nodi gofynion cyfrinachedd y bleidlais, pleidleisio drwy’r post a’r cyfrif, yn Gymraeg a Saesneg.
ymgyrchu ger mannau pleidleisio mewn ffordd y gallai pleidleiswyr ei hystyried yn ymosodol neu’n fygythiol (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau gyda seinyddion neu wedi’u brandio’n drwm â deunydd ymgyrchu).
torri gofynion cyfrinachedd y bleidlais.1
Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fodern ac mae achosion o dorri rheolau yn cael eu cymryd o ddifrif.
ceisio canfod a chyhoeddi sut mae pleidleisiau wedi cael eu marcio ar bapurau pleidleisio unigol, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn bresennol mewn sesiynau agor pleidleisiau post.
cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio nac unrhyw ddata arall sy’n seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan bobl ynghylch sut y gwnaethant bleidleisio ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais, gan gynnwys pleidlais drwy’r post, cyn i’r pleidleisio ddod i ben.2