| Argraffu'r canllawiau llawn

Cynnal diogelwch ac uniondeb yr etholiad

Mae ymgeiswyr yn un o wynebau cyhoeddus allweddol yr etholiad, a bydd eich gwrthwynebwyr, y cyfryngau a phleidleiswyr yn craffu’n fanwl ar eich ymddygiad. 

Dylai pleidleiswyr allu ymddiried y byddwch yn cydymffurfio â’r gyfraith a chynnal diogelwch ac uniondeb y broses etholiadol.

Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am eich ymgyrch ac maent yn gyfrifol yn gyfreithiol am ei rheolaeth ariannol.

Dylech hefyd wneud yn siŵr bod eich cefnogwyr yn deall y gyfraith yn llwyr ac yn gwybod beth mae angen iddynt ei wneud i sicrhau:

  • gall pleidleiswyr gymryd rhan yn rhydd yn yr etholiad hwn; a
  • gall ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr gymryd rhan yn ddiogel yn yr etholiad hwn a pheidio â chael eu bygwth

Os oes bygythiad uniongyrchol i'ch diogelwch personol a/neu os yw'r digwyddiad yn mynd rhagddo ac yn frys, dylech chi a/neu'ch staff neu'ch teulu ffonio 999 fel blaenoriaeth.

Os yw'r digwyddiad yn gofyn am ymateb brys ond nad yw'n digwydd ar hyn o bryd nac yn fygythiad uniongyrchol, mae'n bwysig defnyddio'r gwasanaeth 101 neu Cysylltu â ni | Police.uk. Dyma'r ffordd hawsaf a chyflymaf o gofnodi digwyddiadau a chael dyraniad adnoddau priodol a chael rhif cyfeirnod.

Ceir rhagor o wybodaeth am ganllawiau diogelwch i ymgeiswyr ac asiantiaid yng Nghasgliad Canllawiau Diogelwch Ymgeiswyr - GOV.UK

Dim ond os oes tystiolaeth i ddangos bod trosedd wedi digwydd y gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o dwyll etholiadol. Dylai honiadau bob amser allu cael eu cadarnhau pan gânt eu cyfeirio at yr heddlu. 

Dylech hefyd ystyried yr effaith ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd o ganlyniad i wneud honiadau ffug neu ddi-sail am ymddygiad ymgyrchwyr eraill.

Nid yw’r Swyddog Canlyniadau na’r Comisiwn yn rheoleiddio’r troseddau hyn. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar adrodd am honiadau o dwyll etholiadol

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mawrth 2026