Defnyddio’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol
Mynediad gan restrau plaid
Mae gan asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr i’r Swyddog Canlyniadau hawl i gael copi o’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer yr etholaeth gyfan. Dim ond ar ôl i’r blaid gyflwyno rhestr o ymgeiswyr y gellir cyflenwi’r gofrestr a’r rhestrau.1
Yn ogystal â hynny, gellir rhoi copi i berson a enwebir gan y Swyddog Enwebu o'r rhestrau o bleidleiswyr absennol.2
Fodd bynnag, mae gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig hawl i gael a defnyddio’r gofrestr etholiadol a rhestrau’r pleidleiswyr absennol ar unrhyw adeg at ddibenion etholiadol ac, yn achos y gofrestr, i wirio rhoddion.
Mynediad gan ymgeiswyr unigol
Mae gan ymgeiswyr unigol hawl i gael copi o’r gofrestr etholiadol a rhestrau o bobl sy’n pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy (y rhestrau o bleidleiswyr absennol) ar ôl iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol sy'n cynrychioli'r etholaeth y maent yn sefyll ynddi.3
Mae dwy gofrestr
Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd gan y cyhoedd, mae swyddogion yn cadw dwy gofrestr.
Y gofrestr etholiadol
Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Mae’r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys sy’n cael pleidleisio. Fe’i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, megis canfod troseddau (e.e. twyll), galw pobl i wasanaethu ar reithgor, gwirio ceisiadau am gredyd.
Y gofrestr agored (a elwir hefyd yn gofrestr olygedig)
Mae’r gofrestr agored yn ddetholiad o’r gofrestr etholiadol, ond nid yw’n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, mae’n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Gall etholwyr ofyn am beidio â chynnwys eu henw a’u cyfeiriad yn y gofrestr agored.