Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Pwy sy’n gwneud beth mewn etholiad Senedd Cymru a sut i gysylltu â nhw?
Swyddogion Canlyniadau
Mewn etholiad Senedd Cymru, mae’r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am bob agwedd ar weinyddiaeth yr etholiad, gan gynnwys enwebu ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad, cynnal y bleidlais, y cyfrif a datgan y canlyniad.
Y Swyddog Canlyniadau yw’r Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am etholiadau llywodraeth leol yn yr ardal honno, sydd fel arfer yn uwch swyddog i’r awdurdod lleol ac yn annibynnol oddi ar yr awdurdod o ran eu swyddogaethau etholiadol.
Lle mae etholaeth yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd y Swyddog Canlyniadau yn cael ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.1
Cysylltu â’r Swyddog Canlyniadau
Rydym wedi creu rhestr o enwau a manylion cyswllt Swyddogion Canlyniadau.
Nid yw'r ddogfen hon ar gael ar hyn o bryd gan ein bod yn ei diweddaru. Bydd ar gael cyn gynted â phosibl.
Bydd Swyddogion Canlyniadau yn cynnig sesiynau briffio cyn yr etholiad ac rydym yn eich annog yn gryf i fod yn bresennol, hyd yn oed os ydych wedi bod yn asiant neu wedi sefyll mewn etholiad o’r blaen.
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol (ERO)
Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer ardal eu hawdurdod lleol. Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel arfer yn uwch swyddog i’r awdurdod lleol a hefyd yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddog Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan .
Y Comisiwn Etholiadol
Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2000 gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Ar hyn o bryd, rydym yn cael ein harwain gan ddeg Comisiynydd, gan gynnwys Cadeirydd. Rydym yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU drwy bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Rydym yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, monitro a chyhoeddi rhoddion sylweddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau penodol.
Mae gennym rôl hefyd o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth pleidleiswyr. Mae’n ofynnol i ni adrodd ar weinyddu rhai digwyddiadau etholiadol, i adolygu materion etholiadol ac, os gofynnir am hynny, i adolygu ac adrodd ar unrhyw fater etholiadol. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr i fod yn bresennol mewn prosesau etholiadol.
Nid ydym yn cynnal etholiadau ond mae gennym gyfrifoldeb dros ddarparu cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy’n ymwneud ag etholiadau, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.
Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru
Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru (EMB) yn gyfrifol am gydlynu gweinyddiaeth etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol hefyd yn gyfrifol am gynnal a gweithredu platfform gwybodaeth etholiadau Cymru y gellir cyflwyno cyfeiriadau etholiadol iddo. Am ragor o wybodaeth, gweler ei wefan.
- 1. Article 18(2) The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025 ↩ Back to content at footnote 1