| Argraffu'r canllawiau llawn

Pwy sy’n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr unigol?

Yr asiant etholiad sydd â’r prif gyfrifoldeb am gydymffurfio â’r cyfreithiau ar wariant a rhoddion ymgeiswyr. Mae’r cyfreithiau yn ymdrin â’r swm y gallwch ei wario, gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion, a’r hyn y mae’n rhaid adrodd amdano ar ôl yr etholiad.

Gallwch benodi rhywun fel eich asiant etholiad, neu gallwch fod yn asiant arnoch chi eich hun.1   Gall dirprwy asiant etholiad, sef is-asiant, hefyd gael ei benodi i gefnogi’r asiant. 2

Ar ôl yr etholiad, rhaid i’r ymgeisydd a’r asiant, os ydych chi wedi penodi un, lofnodi datganiadau i ddweud bod eu ffurflen roddion a’u ffurflen wariant yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred.

Golyga hyn bod angen ichi fel yr ymgeisydd fod yn hollol ymwybodol o’r gyfraith. 

Gwariant

Mae’r gyfraith yn berthnasol i wariant ar weithgareddau i hyrwyddo’ch ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod cyfnod penodol yn yr amser cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. 

Mae gwariant ymgeisydd yn cynnwys unrhyw wariant a ysgwyddir, boed ar nwyddau, gwasanaethau, lleoliadau neu gyfleusterau, ar gyfer dibenion etholiad yr ymgeisydd yn y cyfnod a reoleiddir.

Wrth ‘ysgwyddo’, rydym yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.

Mae hyn yn cynnwys:

  • eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddiwyd yn ei ystod
  • gwerth eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% - sef ‘gwariant tybiannol’

Mae yna reolau sy’n cwmpasu:

  • pwy all awdurdodi gwariant a thalu am eitemau a gwasanaethau
  • faint y gallwch ei wario
  • pa weithgareddau sy’n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
  • dyddiadau olaf i dderbyn a thalu anfonebau
  • pa gofnodion sy’n rhaid i chi eu cadw
  • sut a phryd mae angen i chi adrodd am eich gwariant

Gelwir gwariant ymgeisydd yn ‘dreuliau’ yn aml. Weithiau, mae pobl yn meddwl bod hyn yn golygu y gall gwariant gael ei ad-dalu gan y Senedd, neu gennym ni, y Comisiwn Etholiadol. Nid yw hyn yn wir. Nid oes gennych yr hawl i adennill unrhyw wariant o gronfeydd cyhoeddus.

Ceir rhagor o wybodaeth am adrodd am wariant ymgeisydd ar ôl yr etholiad yn Gwariant i ymgeiswyr unigol.

Rhoddion

Yr unig roddion y gall ymgeiswyr unigol eu derbyn yw arian, eitemau neu wasanaethau tuag at eu gwariant ar yr ymgyrch oddi gan ffynonellau penodol sydd wedi’u lleoli’n bennaf yn y DU a rhaid iddynt adrodd amdanynt i’r Swyddog Canlyniadau ar ôl yr etholiad.

Os penodir asiant etholiad, rhaid i roddion gael eu trosglwyddo iddo mor gyflym â phosibl. Yna, rhaid i’r asiant wirio a ellir derbyn y rhodd.

Os na phenodwyd asiant, yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddelio â rhoddion a’u gwirio.  

Ceir rhagor o wybodaeth am adrodd am roddion ar ôl yr etholiad yn Rhoddion i ymgeiswyr unigol.

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mawrth 2026