Cynnal y canfasiad blynyddol: beth yw fy nyletswyddau fel Swyddog Cofrestru Etholiadol?
Cynnal y canfasiad blynyddol: beth yw fy nyletswyddau fel Swyddog Cofrestru Etholiadol?
Mae rhan o'ch dyletswyddau statudol fel Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnwys cynnal canfasiad blynyddol. Fel rhan o hyn, rhaid i chi:
ddatgelu data i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol fel rhan o ymarfer paru data cenedlaethol a elwir yn gam paru data cenedlaethol1
(ac, yn ogystal â hynny, mae gennych ddisgresiwn i gynnal ymarfer paru data lleol hefyd)
ystyried canlyniadau ymarferion paru data cenedlaethol wrth wneud penderfyniad yngylch neilltuo eiddo i lwybrau canfasio
cynnal y camau statudol gofynnol ar gyfer eiddo a neilltuwyd i bob llwybr canfasio
darparu hyfforddiant, lle y bo angen, i staff a fydd yn cynnal y canfasiad ar eich rhan
cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr erbyn 1 Rhagfyr (ac eithrio pan gynhelir etholiad rhwng 1 Gorffennaf a 1 Rhagfyr, pan ellir gohirio cyhoeddi'r gofrestr hyd at 1 Chwefror y flwyddyn ganlynol)2
darparu gwybodaeth ystadegol am eich cofrestr ddiwygiedig i'r Ysgrifennydd Gwladol fel sy'n ofynnol, er enghraifft nifer yr etholwyr seneddol a lleol rydych wedi'u cofrestru yn ôl etholaeth.3
Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, rydych hefyd yn rheolydd data ac mae gennych gyfrifoldeb statudol o dan ddeddfwriaeth diogelu data i sicrhau y caiff data personol eu cadw'n ddiogel. Gallai unrhyw achos o dorri deddfwriaeth o'r fath fod yn drosedd a gallai arwain at golli hyder yn y broses gofrestru etholiadol.