Sut y gallaf reoli risgiau i'r canfasiad blynyddol?
Wrth gynllunio ar gyfer eich canfasiad blynyddol a'i gynnal, bydd angen i chi ystyried y risgiau i'r canfasiad a sut y byddwch yn eu lliniaru, gan sicrhau bod y rhain yn cael eu cofnodi mewn cofrestr risg. Dylid adolygu'r gofrestr risg yn rheolaidd a dylech ei defnyddio i wneud y canlynol:
cofnodi unrhyw risgiau a nodwyd, gan gynnwys difrifoldeb unrhyw risg gan nodi'r tebygolrwydd y bydd y risg yn digwydd ac effaith y risg pe bai'n digwydd
monitro a dogfennu unrhyw newidiadau i'r risgiau hyn
cofnodi camau gweithredu a nodwyd er mwyn lliniaru'r risgiau hyn
monitro a chofnodi sut mae camau lliniaru yn cael eu cymryd
Rydym wedi datblygu templed ar gyfer cofrestr risg a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae'r templed yn rhoi rhai risgiau enghreifftiol a chamau gweithredu a awgrymir ar gyfer lliniaru'r risgiau hynny.
Yn ogystal â'r risgiau a nodir yn y templed, dylech nodi unrhyw risgiau eraill, gan gynnwys y rhai sy'n benodol i'ch amgylchiadau lleol, a sut y byddech yn eu lliniaru.