Beth y dylid ei gynnwys yn fy nghynllun prosiect ar gyfer y canfasiad blynyddol?

Mae cynlluniau prosiect a chofrestrau risg yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau y caiff y canfasiad blynyddol ei gynnal yn llwyddiannus.
 
Rydym wedi datblygu cynllun cofrestru enghreifftiol a allai fod yn ddefnyddiol i chi.


Er mwyn llywio'r rhain, bydd angen i chi wneud rhai penderfyniadau allweddol a fydd yn eich helpu i fapio sut y byddwch yn cynnal y broses ganfasio gyfan. Dylai'r rhain gynnwys:

  • pryd y bydd eich canfasiad yn dechrau
  • pryd a sut y byddwch yn nodi unrhyw eiddo rydych am ei ganfasio drwy Lwybr 3 – sef y llwybr eiddo diffiniedig,  gan gynnwys sut y byddwch yn nodi'r unigolyn sy'n gyfrifol am yr eiddo hwnnw a phryd y byddwch yn cysylltu ag ef
  • pryd rydych yn bwriadu cynnal y cam paru data cenedlaethol
  • a ddylid cynnal ymarfer paru data lleol ac, os felly, pryd y byddwch yn gwneud hynny
  • adolygu maint eich ardaloedd canfasio er mwyn sicrhau eu bod yn addas i gefnogi eich cynllun ar gyfer cynnal y canfasiad a gwneud gwaith dilynol 
  • sut a phryd y byddwch yn neilltuo eiddo i lwybrau canfasio
  • pa fath o ddulliau cyfathrebu y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer pob llwybr 
  • pa systemau ymateb y byddwch yn eu darparu ar gyfer y canfasiad a sut y byddwch yn sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu ymlaen llaw 
  • yr amserlenni ar gyfer anfon eich gohebiaeth ganfasio ar gyfer pob llwybr
  • sut y byddwch yn cysylltu ag unrhyw unigolion nad ydynt wedi ymateb (lle y bo angen)
  • pryd, ac ar ba sail, y caiff canfaswyr eu recriwtio a'u talu 
  • pa drefniadau wrth gefn fydd eu hangen arnoch os cynhelir etholiad yn ystod eich canfasiad, gan gynnwys sut y byddwch yn ailgyfeirio adnoddau er mwyn targedu gweithgarwch cofrestru yn yr ardaloedd hynny lle mae'r etholiad yn cael ei gynnal.
  • pryd a sut y byddwch yn cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig

Ar ôl i chi lunio eich cynllun lefel uchel, gallwch ddechrau cynllunio manylion penodol y broses ganfasio. 

Bydd angen i chi nodi'r gweithgareddau y bydd angen i chi eu cynnal er mwyn cyflawni eich cynllun lefel uchel a chofnodi'r rhain a'r amserlenni ar gyfer eu cyflawni. Caiff rhai o'r gweithgareddau allweddol y bydd angen i chi sicrhau yr ymdrinnir â nhw yn eich cynllun ar y tudalennau canlynol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021