Beth mae angen i mi ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig yn dilyn y canfasiad?
Wrth gynllunio amserlen eich canfasiad, bydd angen i chi ystyried y gofyniad i gyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig erbyn 1 Rhagfyr, oni fydd etholiad wedi'i gynnal yn ystod y canfasiad pan allwch ohirio ei chyhoeddi tan 1 Chwefror.1
Drwy gyhoeddi'r gofrestr ar 1 Rhagfyr byddwch yn rhoi cymaint o amser â phosibl i geisiadau i gofrestru gael eu derbyn mewn da bryd fel y gellir penderfynu arnynt a'u cynnwys ar y gofrestr ddiwygiedig.
Os bydd 1 Rhagfyr ar benwythnos yn hytrach na diwrnod gwaith, efallai y bydd materion ymarferol penodol y bydd angen i chi ymdrin â nhw er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyhoeddi o hyd. Er enghraifft, fel rhan o'ch gwaith cynllunio byddai angen i chi ystyried y gofynion posibl o ran adnoddau sy'n gysylltiedig â gweithio ar benwythnos, megis agor adeiladau swyddfeydd, trefniadau staffio ac argaeledd cymorth TG os bydd ei angen.
Dylech gofio na fydd angen cwblhau pob rhan o'ch gweithgarwch canfasio erbyn 1 Rhagfyr, ni waeth pryd y byddwch yn cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig; gallwch ymgymryd ag unrhyw gamau sy'n weddill fel rhan o'ch gweithgarwch cofrestru etholiadol drwy gydol y flwyddyn.
Os byddwch yn penderfynu cyhoeddi ar ddyddiad ym mis Tachwedd yn lle ar 1 Rhagfyr, am ba reswm bynnag, bydd angen i chi ystyried yr effaith y bydd y terfynau amser cynharach ar gyfer derbyn ceisiadau mewn da bryd er mwyn penderfynu arnynt a'u cynnwys ar y gofrestr ddiwygiedig, yn ei chael ar eich cynlluniau o ran y canfasiad. Mae cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig ym mis Tachwedd yn golygu na fyddai rhai unigolion sy'n gwneud cais llwyddiannus i gofrestru o ddiwedd mis Hydref ymlaen, yn cael eu hychwanegu at y gofrestr tan hysbysiad newid mis Ionawr, oni chânt eu hychwanegu gan unrhyw hysbysiad newid etholiad.