Pa gynlluniau y dylwn eu rhoi ar waith er mwyn gwerthuso llwyddiant gweithgareddau canfasio?
Dylai eich cynllun prosiect hefyd roi manylion am sut y byddwch yn monitro effeithiolrwydd y penderfyniadau fyddwch yn eu gwneud a’r gweithgareddau rydych yn eu cynnal i’ch galluogi i werthuso effaith eich camau gweithredu. Dylai hyn eich helpu i fireinio eich dull ar gyfer y canfasiad cyfredol, lle bynnag bo modd, a dylai hefyd gyfrannu at eich cynlluniau ar gyfer canfasiadau’r dyfodol.
Dylech gynllunio i werthuso effaith unrhyw brosesau cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig a gynhaliwyd ochr yn ochr â’ch prosesau ar gyfer y canfasiad a p’un a weithiodd hyn yn dda neu achosi unrhyw ddryswch neu wrthdaro. Dylech werthuso a gafodd eich amser effaith ar y rhain:
cyfraddau ymateb
cynnydd mewn niferoedd gwahoddiad i gofrestru ac ail-gysylltu
effeithiolrwydd cyfateb data
nifer y cartrefi Llwybr 2, o ganlyniad i ddata cenedligrwydd coll ar gyfer etholwyr marciwr J
ymholiadau gan etholwyr
Bydd y safonau perfformio ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a’r adnoddau a’r templedi sydd ar gael i’w cefnogi, yn eich cynorthwyo i ddeall effaith eich gweithgareddau, helpu i nodi lle y gall gwelliannau gael eu gwneud a’ch cefnogi i adrodd ar eich perfformiad eich hun yn lleol.
Dylech ddefnyddio’r data a’r wybodaeth ansoddol a nodir yn y safonau i helpu i ddeall effaith eich gweithgareddau i nodi beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio a lle y gall gwelliannau gael eu rhoi ar waith. Bwriad y fframwaith yw cefnogi’r dadansoddiad hwn ac mae’n canolbwyntio ar y data a’r wybodaeth allweddol a fydd yn dangos beth sy’n gweithio’n dda a beth nad yw’n gweithio cystal.
Dylai’r safonau, yn ogystal â’r adnoddau a’r templedi ategol hefyd eich helpu i ddangos yn lleol - boed o fewn eich awdurdod lleol, i aelodau etholedig, neu’n fwy eang - sut y mae’r gweithgareddau rydych yn eu cynnal yn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cofrestru etholiadol effeithlon ac effeithiol ac a fydd, yn y pen draw, yn helpu i sicrhau bod pawb sy’n gymwys ac eisiau pleidleisio yn gallu gwneud hynny.