Beth bydd angen i mi ei ystyried os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad blynyddol?
Beth bydd angen i mi ei ystyried os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad blynyddol?
Gallai etholiad yn ystod y cyfnod canfasio gwtogi’r amser sydd gennych ar gyfer gweithgareddau dilynol o ran cyfathrebiadau canfasio a gwahoddiadau i gofrestru.
Dylai eich cynllun canfasio a chofrestr risgiau gynnwys manylion o ran sut byddwch yn ailgyfeirio adnoddau i dargedu cofrestru mewn unrhyw ardaloedd lle bydd etholiad yn cael ei gynnal.
Os cynhelir unrhyw un o’r etholiadau a restrir isod, gan gynnwys etholiadau cyffredinol neu isetholiadau, rhwng 1 Gorffennaf a 1 Rhagfyr, bydd angen i chi wneud penderfyniad p’un a ddylid gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ac os felly, am ba mor hir.
Yn yr amgylchiadau canlynol, gellir gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig hyd nes 1 Chwefror y flwyddyn ganlynol.
Etholiadau Senedd y DU
Etholiadau’r Senedd
Llywodraeth leol - etholiadau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol
Llywodraeth leol - etholiadau cynghorau cymunedol
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gall effaith unrhyw etholiad ddibynnu ar ba gam o’r canfasiad rydych arno, a faint o ddosbarthiadau etholiadol sy’n cael eu heffeithio gan yr etholiad.
Bydd angen i chi fod yn fodlon bod gennych ddigon o amser i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod eich cofrestrau mor gywir a chyflawn â phosib adeg eu cyhoeddi.
Wrth ymgyrraedd at eich penderfyniad, dylech ystyried yr effaith y gallai gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ei chael ar y broses ganfasio.
Er enghraifft, pan fo cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi ei ohirio, gall canfasio personol ddigwydd yn hwyrach yn y flwyddyn, lle gallai llai o oriau golau dydd effeithio ar barodrwydd y canfaswyr i gnocio ar ddrysau, a pharodrwydd y rhai nad ydynt wedi ymateb i agor eu drysau. Gall tywydd garw hefyd effeithio ar ganfasiad hwyrach, a gall cyfraddau ymateb leihau dros gyfnod y Nadolig.
Lle byddoch yn penderfynu gohirio dyddiad cyhoeddi oherwydd etholiad, dylech gymryd camau i sicrhau bod pleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig lleol yn ymwybodol o’r newid i ddyddiad cyhoeddi’r gofrestr mor gynnar â phosib.
Megis yr amlinellir yn y canllawiau ar hysbysiadau newid misol yn ystod y cyfnod canfasio, nid yw’n ofynnol cyhoeddi hysbysiad newid misol yn ystod y mis y byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, neu yn ystod y ddau fis cyn y diwrnod hwnnw, ond gallwch wneud felly os dymunwch.
O’r herwydd, os gohirir cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig hyd nes, er enghraifft, 1 Chwefror, byddwch yn cyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Hydref a mis Tachwedd; nid yw’n ofynnol i chi gyhoeddi un ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr, ond gallwch wneud felly os dymunwch.