Cyflawni'r canfasio blynyddol – Cymru
Sut gallaf dargedu etholwyr newydd os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad?
Sut gallaf dargedu etholwyr newydd os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad?
Os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad, eich blaenoriaeth fydd unrhyw etholwyr newydd posib a ganfuwyd sydd heb gofrestru eto.
Dylech ystyried sut orau i ddefnyddio’ch adnoddau i dargedu’r unigolion hyn a mynd ar ôl ymatebion i unrhyw gyfathrebiadau canfasio Llwybr 2 neu 3, fe y gall cynifer o etholwyr cymwys â phosib gael eu cofrestru mewn pryd ar gyfer yr etholiad.
Dylai eich cynllun fynd i’r afael â phethau megis:
- beth bydd rhaid i ganfaswyr ei wneud yn wahanol
- sut bydd staff canfasio yn cael eu hysbysu ynghylch etholiad, a sut y rhoir cyfarwyddiadau adolygedig iddynt
- beth byddwch yn ei wneud i gynyddu ymatebion yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio er mwyn lleihau difreinio posib
- sut byddwch yn canfod a blaenoriaethu prosesu’r cyfathrebiadau canfasio a’r gwahoddiadau cofrestru ar gyfer yr ardaloedd yr effeithir arnynt
- sut bydd y canfasiad yn ailgychwyn wedi’r etholiad
- pryd byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, a pha ffactorau a fydd yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad
- sut byddwch yn cyfathrebu penderfyniadau i bleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig lleol, ac unigolion a grwpiau eraill a fyddai â diddordeb
Bydd argraffu dosbarthiadau etholiadol ar gyfathrebiadau canfasio a gwahoddiadau cofrestru yn eich galluogi i ganfod y ffurflenni hyn yn gyflym a’u blaenoriaethu lle bo etholiad yn digwydd mewn un rhan yn unig o’r ardal gofrestru.
Gallwch gynnwys gwybodaeth arall sy’n ymwneud â chofrestru yn yr un amlen â gwahoddiad i gofrestru, megis gwybodaeth am y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer yr etholiad ar ddod.
Os bydd yr etholiad yn effeithio ar yr ardal gofrestru gyfan, bydd yn arbennig o bwysig bod eich adnoddau’n cael eu targedu at gynyddu nifer yr etholwyr cymwys sy’n cofrestru mewn pryd i gymryd rhan yn yr etholiad.
Dylid gwneud pob ymdrech i gyflawni pob ymweliad ymhell cyn y dyddiad cau cofrestru, ond, yng ngoleuni’r cyfyngiadau o ran amser, a chan ddibynnu ar amseru’r etholiad, nid fydd hyn bob tro’n bosib.
Dylech ddefnyddio cofnodion data lleol a’ch gwybodaeth am eich ardal leol i ganfod unrhyw etholwyr newydd, ac unrhyw eiddo lle gallai fod wedi bod newidiadau. Gallai’r rhain wedyn gael eu blaenoriaethu o ran ymweliadau personol.
Gallech hefyd ystyried diwygio eich dull ar gyfer gweithgareddau dilynol mewn perthynas ag eiddo Llwybr 2 neu Lwybr 3 sydd heb ymateb yn yr ardal sy’n cael ei heffeithio gan yr etholiad. Er enghraifft, gallech ddewis anfon negeseuon atgoffa electronig ychwanegol neu wneud cyswllt personol trwy’r ffôn yn hytrach nag ymweliad wyneb i wyneb, lle bo hynny’n bosib.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r awdurdod lleol a wnaeth eich penodi yn ERO ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich swyddogaethau statudol.
Defnyddiwch y cyfryngau lleol ac ymarferion ymwybyddiaeth gyhoeddus i roi gwybod i drigolion sut gallant gofrestru i bleidleisio mewn pryd i gael eu cynnwys ar y gofrestr a ddefnyddir yn yr etholiad.
Os bydd etholiad sy’n cwmpasu’r DU gyfan yn ystod y canfasiad, bydd yn bwysig i chi gysylltu’r negeseuon lleol ag unrhyw weithgarwch cyfathrebu gan y Comisiwn er mwyn cynyddu eu heffaith.
Lle bo’r etholiad yn croesi ffiniau cynghorau lleol, dylech gysylltu â’r ERO(s) yn y cynghorau eraill i sicrhau dull cyson a negeseuon cyson ar draws yr ardal etholiadol.
Sut gallaf ddefnyddio fy nghanfaswyr i dargedu etholwyr newydd os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad?
Dylai’ch cynlluniau fod yn ddigon hyblyg i’ch galluogi i ail-gyfeirio adnoddau staff i sicrhau y cesglir cynifer o ymatebion â phosib a’u dychwelyd i’r swyddfeydd cofrestru etholiadol yn yr ardaloedd perthnasol mewn pryd i gael eu prosesu a’u pennu ar gyfer yr hysbysiad newid etholiad terfynol.
O’r hyn lleiaf, dylai canfaswyr sy’n gweithio yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan yr etholiad ddychwelyd unrhyw ffurflenni cofrestru pleidleiswyr y maent wedi eu casglu mor fuan â phosib ac erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cofrestru ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Dylech ddarparu manylion yn y cyfarwyddiadau i ganfaswyr ynghylch pa mor aml y dylai ffurflenni gael eu dychwelyd i’r swyddfa gofrestru os bydd etholiad.
Ystyrir bod ffurflenni cais cofrestru a gasglwyd gan ganfaswyr erbyn y dyddiad cau cofrestru wedi bodloni’r dyddiad cau cofrestru hyd yn oed os nad ydynt yn cyrraedd swyddfa’r Swyddog Cofrestru Etholiadol tan ar ôl y dyddiad cau. Rhaid i ganfasio beidio dim ond yn yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan yr etholiad.
Dylai canfaswyr yn yr ardaloedd etholiadol yr effeithir arnynt gan yr etholiad annog trigolion sydd heb gofrestru i wneud felly ar-lein (neu drwy’r ffôn os ydych yn cynnig y gwasanaeth hwn), ac amlygu’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cofrestru. Gallent fod â ffurflenni cofrestru gwag i etholwyr posib eu llenwi lle nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd.
I sicrhau taw dim ond ffurflenni a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau cofrestru sy’n cael eu prosesu, dylai canfaswyr gael eu cyfarwyddo i ddod ag ymweliadau personol i ben erbyn diwedd y deuddegfed diwrnod cyn y bleidlais.