Rhaid i'r data rydych yn eu hanfon ar gyfer y cam paru data cenedlaethol mewn perthynas â phawb sy'n 16 oed neu drosodd sy'n ymddangos ar gofrestrau seneddol a llywodraeth leol gynnwys y canlynol:1
yr enw llawn yn cynnwys unrhyw enw(au) canol neu blaenlythrennau a all fod gennych
y dyddiad geni (lle bo ar gael)
y cyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) (lle bo ar gael)
unrhyw wybodaeth arall sydd gennych am gofnod person ar y gofrestr, os bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn nodi gwybodaeth o'r fath yn ysgrifenedig (er enghraifft, cyfenw blaenorol). Gall y wybodaeth ychwanegol hon wella'r tebygolrwydd o baru data oherwydd gall y wybodaeth sydd gennych ddangos bod cysylltiad rhwng y data a gedwir yn genedlaethol a'ch data chi.
Ni chaiff pobl ifanc 14 a 15 oed eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol am nad yw DWP yn cadw eu manylion.