Pwy na fydd wedi'i gynnwys yn y cam paru data cenedlaethol?
Pwy na fydd wedi'i gynnwys yn y cam paru data cenedlaethol?
Rhaid i rai mathau penodol o etholwyr gael eu gadael allan o'r cam paru data cenedlaethol. Dyma nhw:1
pobl ifanc 14 a 15 oed
pob etholwr categori arbennig
Hefyd, ni ddylech gynnwys yr etholwyr na'r eiddo canlynol yn y cam paru data cenedlaethol:
Etholwyr a bennwyd – unigolion y mae eu cais wedi'i bennu ac a ychwanegir at y gofrestr erbyn yr hysbysiad o newid nesaf. Dim ond newydd gael eu hychwanegu at y gofrestr fydd yr etholwyr hyn felly ystyrir eu bod wedi'u paru fel mater o drefn.
Hepgoriadau a bennwyd – unigolion rydych wedi pennu na allant gael eu cofrestru mwyach ac a gaiff eu tynnu o'r gofrestr erbyn yr hysbysiad o newid nesaf.
Eiddo gwag neu segur – gan nad oes unrhyw etholwyr wedi'u cofrestru yn yr eiddo hyn, nid oes unrhyw unigolion i'w paru â data DWP fel rhan o'r cam paru data cenedlaethol
Etholwyr categori arbennig
Ni ddylai'r etholwyr categori arbennig canlynol gael eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol, am nad ydynt wedi'u cynnwys yn y canfasiad blynyddol:2
etholwyr o dramor, h.y. dinasyddion Prydeinig sy'n byw y tu allan i'r DU
Pleidleiswyr o'r Lluoedd Arfog (a phriod neu bartner sifil a'r rhai o dan 18 oed sy'n byw gyda'u rhiant neu warcheidwad a bod eu rhiant neu warcheidwad yn aelod o Luoedd Arfog EM)
Gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council (a phriod neu bartner sifil a'r rhai o dan 18 oed sy'n byw gyda'u rhiant neu warcheidwad, a bod eu rhiant neu warcheidwad yn un o weision y Goron neu'n un o aelodau o staff y British Council, ac y byddent yn byw yng Nghymru os na fyddai eu rhiant neu warcheidwad yn byw dramor)
etholwyr sydd wedi datgan cysylltiad lleol, gan gynnwys pobl sy'n byw yn y DU nad oes ganddynt gyfeiriad parhaol na sefydlog
etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw, h.y. y rhai sydd wedi cofrestru'n ddienw oherwydd y byddent yn poeni am eu diogelwch petai eu henw yn ymddangos ar y gofrestr
cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl sydd yno'n ddigon hir i'w hystyried yn breswylwyr
carcharorion ar remand mewn sefydliad cosbi sydd yno'n ddigon hir i'w hystyried yn breswylwyr