Beth yw Llwybr 1 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?

Beth yw Llwybr 1 a phryd y gallaf ei ddefnyddio? 

Llwybr 1 yw'r llwybr eiddo wedi'u paru Gellir ei ddefnyddio i anfon gohebiaeth ganfasio i eiddo lle rydych wedi eich bodloni nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn seiliedig ar ganlyniadau'r broses paru data genedlaethol ac unrhyw broses paru data leol.

Ceir dolen i'r trosolwg gweledol o Lwybr 1 isod:

Gellir canfasio eiddo gan ddefnyddio Llwybr 1 dan yr amgylchiadau canlynol:1  

  • Rydych wedi eich bodloni nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn yr eiddo hwnnw ac nid oes gennych unrhyw reswm dros gredu bod angen ychwanegu unrhyw etholwyr ychwanegol 
  • Rydych wedi cynnal proses paru data leol i gadarnhau statws yr eiddo fel un gwag neu ddi-rym.  
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2022