Pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yng Ngohebiaeth Ganfasio A (CCA) a phryd y gallaf ei defnyddio?

Pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yng Ngohebiaeth Ganfasio A (CCA) a phryd y gallaf ei defnyddio?

Gohebiaeth bapur yw gohebiaeth ganfasio A a ddefnyddir ar gyfer cysylltu ag eiddo wedi'u paru fel rhan o ganfasiad Llwybr 1. Mae'n rhoi manylion yr unigolion sydd wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad ar hyn o bryd i'r ymatebwyr ac yn eu hannog i ymateb os bydd angen gwneud newidiadau. 

Mae fformat y CCA wedi'i ragnodi1 a rhaid i chi hefyd gynnwys gwybodaeth benodol am bob unigolyn sydd wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad ar hyn o bryd. 

Rhaid i chi ailargraffu:2  

  • Enw llawn a chenedligrwydd pob etholwr cofrestredig, yn cynnwys cyrhaeddwyr a'r unigolion hynny y mae eu ceisiadau wedi'u pennu yn ddiweddar ac a gaiff eu hychwanegu i'r gofrestr erbyn yr hysbysiad o newid cyn i'r CCA gael ei hanfon.
  • os yw'n ymarferol, p'un a yw bob unigolyn sydd wedi'i restru ar y ffurflen yn 76 oed neu’n hŷn.

Rhaid i'r CCA hefyd gynnwys:

  • unrhyw wybodaeth am y ffordd y gall preswylwyr ymateb os bydd unrhyw wybodaeth yn anghywir neu'n anghyflawn3
  • datganiad yn nodi, lle caiff ymateb ei roi am fod unrhyw wybodaeth yn anghyflawn neu'n anghywir, y bydd yn ofynnol i'r ymatebydd ddatgan bod y wybodaeth a ddarperir ganddo yn wir4  
  • datganiad ar y ffordd y caiff y data eu defnyddio a'u prosesu5  

Ni ddylai'r CCA gynnwys:6  

  • Manylion unrhyw etholwyr Categori Arbennig 
  • manylion unrhyw unigolyn rydych yn ymwybodol ohono ond nad yw wedi llwyddo i gofrestru i bleidleisio eto, hyd yn oed os ydych yn credu y gall fod yn breswylydd ac yn gymwys i gofrestru

Ceir rhagor o arweiniad i'ch helpu i lunio'r CCA yn ein canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.

Rhaid anfon CCA dan yr amgylchiadau canlynol:7  

  • Rydych eisoes wedi anfon e-ohebiaeth ar gyfer eiddo Llwybr 1 ac nid ydych wedi cael ymateb llwyddiannus gan o leiaf un unigolyn yn yr eiddo yr anfonwyd e-oheiaeth ato o fewn cyfnod rhesymol o amser
  • nid ydych wedi gallu anfon e-ohebiaeth at o leiaf un unigolyn mewn eiddo
  • Rydych wedi penderfynu peidio â defnyddio e-ohebiaeth ar gyfer eiddo Llwybr 1

Nid oes unrhyw ofyniad i gael ymateb i CCA. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mawrth 2021