Beth ydw i'n ei wneud â chanlyniadau paru data?

Beth ydw i'n ei wneud â chanlyniadau paru data?

Bydd y canlyniadau paru data yn eich helpu i benderfynu a yw'r eiddo yn gyffredinol wedi'i baru neu heb ei baru ac mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i'ch helpu i neilltuo'r eiddo hwnnw i'r llwybr canfasio priodol.1  

  • Eiddo a berir - Ystyrir bod eiddo wedi'i baru pan fydd canlyniad paru ar gyfer pob etholwr mewn eiddo, drwy ddata cenedlaethol a/neu leol. Gellir hefyd ystyried bod eiddo wedi'i baru lle byddwch wedi gwneud gwaith paru data lleol ac wedi cadarnhau bod yr eiddo yn wag. 
  • Eiddo nas perir - Ystyrir nad yw eiddo wedi'i baru lle na allwch baru rhai o'r etholwyr neu bob un o'r etholwyr mewn cartref drwy ymarfer paru data lleol a/neu genedlaethol.  

Gall canlyniadau paru data cenedlaethol a lleol fod yn berthnasol wrth bennu'r llwybr canfasio priodol. Er enghraifft, gallech:

  • Dderbyn canlyniad paru o ymarfer paru data cenedlaethol neu leol
  • Anwybyddu canlyniad paru o ymarfer paru data cenedlaethol lle rydych yn fodlon bod gwybodaeth paru data leol yn fwy cywir - efallai y byddwch o'r farn bod eich ffynhonnell data lleol yn cynnwys gwybodaeth fwy cyfredol
  • Anwybyddu canlyniad o ymarfer paru data lleol os credwch fod yr ymarfer paru data cenedlaethol yn fwy cywir

Pa gamau y gallaf eu cymryd pan na fydd unigolyn wedi'i baru?

Ni allwch anwybyddu'r canlyniadau lle bydd data cenedlaethol a lleol yn dangos bod o leiaf un etholwr yn yr eiddo heb ei baru.

Fodd bynnag, gallech ystyried defnyddio ffynonellau data lleol eraill rydych yn ymddiried ynddynt i fod yn gywir er mwyn ceisio paru'r etholwr cyn dyrannu'r eiddo hwnnw. 

Os gallwch baru unigolyn gan ddefnyddio ffynonellau data lleol eraill, gallwch wedyn fodloni'ch hun fod yr eiddo cyfan wedi'i baru a gallech ei ganfasio drwy Lwybr 1 - y llwybr eiddo wedi'i baru.

Os na fydd data lleol ychwanegol ar gael, neu os na lwyddir i baru'r etholwr gan ddefnyddio data lleol ychwanegol, dylech ganfasio'r eiddo drwy Lwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru - oherwydd ni allwch fodloni'ch hun nad oes unrhyw newidiadau i'w nodi ar gyfer yr eiddo hwnnw. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mawrth 2021