A oes unrhyw ystyriaethau eraill o ran diogelu data?

A oes unrhyw ystyriaethau eraill o ran diogelu data?

Wrth brosesu gwybodaeth mewn cysylltiad â'r cam paru data cenedlaethol, rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion a osodwyd gan Weinidog y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.1 Gall Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddarparu rhagor o ganllawiau ar unrhyw ofynion o'r fath.2  

Hefyd, rhaid i unrhyw ddata a gaiff eu defnyddio neu eu prosesu mewn cysylltiad â'r cam paru data cenedlaethol gael eu storio'n ddiogel a'u prosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Dylech hefyd sicrhau bod eich hysbysiadau preifatrwydd ac amserlenni cadw data yn adlewyrchu prosesu data ar gyfer y cam paru data cenedlaethol a lleol.

Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol isod yn rhoi arweiniad mewn perthynas â hysbysiadau preifatrwydd, ynghyd â chyngor ar eich rôl fel rheolydd data a rhestr wirio er mwyn helpu i lywio cynnwys cytundebau rhannu data.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2024