Pa sianeli ymateb y gellir eu defnyddio ar gyfer Llwybr 2?

Pa sianeli ymateb y gellir eu defnyddio ar gyfer Llwybr 2?

Y tu hwnt i'r gofyniad i gynnwys amlen ymateb ragdaledig gyda Ffurflen Ganfasio, mater i chi fydd penderfynu pa sianeli ymateb i'w cynnig ar gyfer ymateb i ohebiaeth ganfasio, boed yn Ffurflen Ganfasio neu'n CCB. Bydd angen i chi adlewyrchu'r opsiynau posibl ar gyfer ymateb yn eich gohebiaeth ganfasio ar bob cam o broses Llwybr 2. 

Gall y math o ddull ymateb y gallwch fod am ei gynnig gynnwys: 

  • Galwad ffôn (naill ai â chanolfan galwadau neu'n uniongyrchol â'ch tîm)
  • Ar-lein drwy system rheoli ymateb ar-lein awtomataidd
  • Neges destun SMS
  • E-bost (naill ai i wasanaeth ymateb a reolir neu'n uniongyrchol i’ch tîm)
  • Yn bersonol
  • Drwy'r post (noder – nid oes gofyniad cyfreithiol i gynnwys amlen ymateb ragdaledig gyda CCB, gan adlewyrchu na fwriedir i'r llythyr ei hun gael ei ddychwelyd drwy'r post) 

Pan fyddwch yn penderfynu pa sianeli ymateb i'w cynnwys, bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • Os dychwelir ymateb drwy'r post sy'n dynodi newidiadau i eiddo, sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn fodlon bod y wybodaeth a roddir yn gywir i'ch galluogi i brosesu'r newidiadau?
  • Demograffeg eich ardal ganfasio – er enghraifft os gwyddoch fod gennych boblogaeth uchel o bobl hŷn, ardaloedd â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd neu lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, bydd angen i chi ystyried pa ddulliau ymateb a fyddai'n fwyaf priodol i ddiwallu'r anghenion hyn. 
  • A fydd y dulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig yn galluogi unigolion i roi manylion am unrhyw newidiadau i chi mewn ffordd hygyrch
  • A fydd y dulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig hefyd yn annog darpar etholwyr newydd i gofrestru drwy'r gofrestr i bleidleisio ar-lein 
  • Sut y byddwch yn rheoli'r gwaith o brosesu ymatebion drwy sianeli gwahanol – er enghraifft os ydych yn ystyried defnyddio sianel nad ydych wedi ei defnyddio o'r blaen, bydd angen i chi sicrhau bod gennych y prosesau cywir ar waith i reoli ymatebion drwy'r sianel hon, gan gynnwys ystyried sut y bydd pob sianel yn rhyngweithio â'ch System Rheoli Etholiad. Dylech hefyd ystyried unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau os byddwch yn defnyddio dulliau ymateb gwahanol. 

Os na chewch ymateb i ohebiaeth Llwybr 2, hyd yn oed os nad oes unrhyw newidiadau i'w cofnodi, rhaid i chi geisio cysylltu eto hyd nes y byddwch wedi bodloni'r meini prawf gofynnol o ran cysylltu.1

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mawrth 2021