Sut y dylwn wneud yr ymgais gyntaf i gysylltu?

Sut y dylwn wneud yr ymgais gyntaf i gysylltu? 

Bydd angen i chi benderfynu sut y byddwch yn gwneud yr ymgais gyntaf i gysylltu. Dyma rai cwestiynau i chi eu hystyried:

  • A fyddwch yn anfon gohebiaeth bapur ac, os felly, pa fath?
    • Gall CCB annog unigolion i ddefnyddio'r sianeli ymateb eraill  sydd gennych ar waith. Gall cynnydd yn y defnydd o'r sianeli hyn arbed costau a lleihau'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i brosesu ymatebion. Dylid hefyd ystyried demograffeg eich etholwyr a pha mor debygol y maent o allu defnyddio'r sianeli ymateb gwahanol. 
    • Mae'n bosibl y bydd etholwyr yn gyfarwydd â Ffurflen Ganfasio ragnodedig, a all annog unigolion i ymateb i'r ymgais gyntaf i gysylltu. Cofiwch os na chewch ymateb i'r ymgais gyntaf i gysylltu, os byddwch wedi anfon Ffurflen Ganfasio fel rhan o'r ymgais honno, ni fydd angen i chi anfon Ffurflen Ganfasio arall fel rhan o unrhyw ymgais ddilynol i gysylltu. 
  • Sut y byddwch yn dosbarthu'r ohebiaeth bapur – yn bersonol neu drwy'r post?  
    • Bydd angen i chi ystyried y gofynion o ran costau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a dosbarthu pob opsiwn. 
  • Os byddwch yn ei dosbarthu'n bersonol, a fyddwch yn cyfuno hynny ag ymweliad personol? 
    • Os byddwch yn dosbarthu gohebiaeth ganfasio yn bersonol, gallech geisio ymweld â'r eiddo yn bersonol (curo ar y drws) gyntaf. Bydd yr ymgais hon i wneud cyswllt personol ag unigolyn yn yr eiddo yn bodloni gofyniad Llwybr 2 mewn perthynas â gwneud o leiaf un ymgais i wneud cyswllt personol. Os na fydd ateb yn yr eiddo, gallech wedyn ddosbarthu'r ohebiaeth ganfasio. 
    • Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn nodi, yn recriwtio ac yn hyfforddi digon o ganfaswyr ar gyfer lledaeniad daearyddol a nifer yr eiddo y mae angen dosbarthu gohebiaeth ganfasio Llwybr 2 iddynt). 
       
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mawrth 2021