Beth yw'r opsiynau posibl ar gyfer yr ymgais gyntaf i gysylltu?
Beth yw'r opsiynau posibl ar gyfer yr ymgais gyntaf i gysylltu?
Rhaid i'r ymgais gyntaf i gysylltu fod ag eiddo, nid ag unigolyn.1
Dyma'r opsiynau posibl ar gyfer cysylltu ag eiddo:2
Gohebiaeth Ganfasio B (CCB)
Ffurflen Ganfasio
Ymweliad â'r eiddo (h.y. curo ar y drws)
Beth yw Gohebiaeth Ganfasio B?
Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi manylion am yr hyn y mae'n rhaid i'r CCB3
ei gynnwys yn yr un modd ag ar gyfer y CCA ragnodedig (a ddefnyddir ar gyfer eiddo Llwybr 1) a'r Ffurflen Ganfasio, mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi ddefnyddio'r fersiwn a luniwyd gan y Comisiwn Etholiadol.
Gohebiaeth Ganfasio B:
Ffurflen bapur
Gellir ei defnyddio yn lle'r Ffurflen Ganfasio (er ei bod yn ofynnol i un o'r tair ymgais i gysylltu sy'n ofynnol i gwblhau Llwybr 2 os na cheir ymateb fod ar ffurf Ffurflen Ganfasio)
Nid oes angen cynnwys amlen ymateb ragdaledig
Mae'n annog ymateb drwy sianeli eraill yn lle'r post – naill ai ar-lein neu drwy wasanaeth ymateb dros y ffôn
Mae'n gofyn am ymateb hyd yn oes os nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau ar gyfer yr eiddo