Os na chewch ymateb i ohebiaeth Llwybr 2, hyd yn oed os nad oes unrhyw newidiadau i'w cofnodi, rhaid i chi geisio cysylltu eto hyd nes y byddwch wedi bodloni'r meini prawf gofynnol o ran cysylltu.1
Bydd angen i chi gadarnhau bod unrhyw ymateb a gewch yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn prosesu'r ymateb. Er enghraifft, a oes gennych ddigon o wybodaeth i ddechrau'r Gwahoddiad i Gofrestru (ITR) neu broses adolygu?
Dim ond gan un unigolyn y mae angen i chi gael ymateb er mwyn bod yn fodlon eich bod wedi cael ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Os byddwch yn cael ymateb sy'n cadarnhau bod yr holl wybodaeth sydd gennych ar gyfer eiddo yn gyflawn ac yn gywir, gallwch gau Llwybr 2 ar gyfer yr eiddo hwnnw pan fyddwch wedi prosesu'r ymateb.
Rheoli ymatebion anghyflawn neu sy'n gwrthdaro
Os byddwch yn cael ymateb sy'n dangos y gallai fod rhywbeth wedi newid yn yr eiddo, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w brosesu'n llawn. Gallwch wneud ymholiadau ychwanegol os na fydd yr ymateb yn cynnwys digon o wybodaeth i gau Llwybr 2. Er enghraifft, os byddwch wedi cael enw llawn darpar etholwr newydd ond nid ei genedligrwydd, gallech wneud ymholiadau ychwanegol cyn anfon ITR ato.
Ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, os byddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus, gallwch gau Llwybr 2 a pharhau â'r ITR neu'r broses adolygu fel sy'n briodol ar gyfer yr eiddo.
Os byddwch yn cael gwybodaeth wahanol gan eiddo bydd angen i chi benderfynu pa gamau i'w cymryd. Er enghraifft, os byddwch yn cael ymateb gan un etholwr yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth yn gywir a'ch bod yn cael ymateb gan un arall yn nodi bod angen tynnu enw rhywun oddi ar y gofrestr yn yr eiddo, bydd angen i chi wneud ymholiadau pellach er mwyn cadarnhau manylion yr eiddo.
Fodd bynnag, os byddwch wedi cael gwybodaeth i awgrymu y gallai fod rhywbeth wedi newid yn yr eiddo, ond na allwch gael y wybodaeth sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus drwy'r nifer gofynnol o gynigion i gysylltu fel rhan o Lwybr 2, dylech barhau i geisio cysylltu er mwyn cael y wybodaeth goll sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus.
Rheoli newidiadau i eiddo
Pan fyddwch yn cael ymateb i ohebiaeth Llwybr 2 sy'n dynodi y gall rhywbeth fod wedi newid yn yr eiddo, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w brosesu'n llawn ac yna dylech gymryd camau i brosesu'r wybodaeth yn yr ymateb fel sydd ei angen.