| Argraffu'r canllawiau llawn

Penodi eich asiantiaid cyfrif

Gall asiant etholiad rhestr plaid ac unrhyw ymgeisydd unigol hefyd benodi pobl eraill fel asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif.1

Gellir penodi unrhyw un, ac eithrio'r rhai sydd wedi’u rhestru, i fod yn asiant cyfrif.

Ni chaniateir i’r bobl ganlynol fod yn asiantiaid cyfrif:2

  • y Swyddog Canlyniadau, neu aelod o’i staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn benodol ar gyfer yr etholiad)
  • dirprwy neu glerc y Swyddog Canlyniadau, neu aelod o’i staff
  • swyddog awdurdod lleol y mae ei wasanaethau wedi eu rhoi at ddefnydd y Swyddog Canlyniadau
  • partner neu glerc i unrhyw un o’r uchod
  • unrhyw un nad oes ganddo'r hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiad neu euogfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Gall asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig ac ymgeisydd unigol a’i asiant wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif yr hawl i’w wneud.

Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rheoli’r broses o benodi asiantiaid cyfrif.

Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rhoi gwybod i chi'r uchafswm asiantiaid cyfrif y gellir eu penodi. Bydd asiantiaid etholiad i restrau plaid ac ymgeiswyr unigol yn cael penodi union yr un nifer.3

Rhaid i’r cais i benodi’r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy a rhaid iddo gynnwys enwau, cyfeiriadau post a phan maent ar gael, cyfeiriadau e-bost y bobl sy'n cael eu penodi.4  Gall y Swyddog Canlyniadau ddarparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid cyfrif ar wefan y Comisiwn.

Y dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid cyfrif yw dim hwyrach na 5 diwrnod cyn y bleidlais.6

Os yw asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gellir penodi asiant arall yn ei le.7 Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.8

Am ragor o wybodaeth am yr hyn y gall neu na all asiantiaid ei wneud a’r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiwn gyfrif, gweler ein canllawiau ar beth yw gwaith asiant cyfrif?

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mawrth 2026