| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw’r broses bleidleisio arferol?

Mae’r broses bleidleisio arferol mewn gorsaf bleidleisio yn syml a gellir ei chrynhoi fel a ganlyn:

Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn:

  • gofyn i bleidleiswyr gadarnhau eu henw a’u cyfeiriad cyn sicrhau eu bod yn gymwys i bleidleisio drwy wirio yn erbyn y gofrestr etholwyr
  • nodi marc yn erbyn cofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
  • galw rhif ac enw’r etholwr
  • ychwanegu rhif yr etholwr at restr (y Rhestr Rhifau Cyfatebol) wrth ymyl rhif y papur pleidleisio sydd i’w gyflwyno
  • sicrhau bod y marc swyddogol ar y papur pleidleisio (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
  • plygu'r papur pleidleisio a'i roi heb ei blygu i'r pleidleisiwr fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur pleidleisio

Yna, bydd yr etholwr yn:

  • mynd â'r papur pleidleisio i'r bwth pleidleisio ac yn marcio'r papur pleidleisio yn breifat, oni bai bod cydymaith neu'r Swyddog Llywyddu yn rhoi cymorth
  • plygu'r papur pleidleisio wedi'i farcio a dangos rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw ar gefn y papur pleidleisio i'r Swyddog Llywyddu
  • rhoi'r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ac yn gadael yr orsaf bleidleisio

Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio

Mae gan y Swyddog Canlyniadau gyfrifoldeb i sicrhau bod pleidleisio’n hygyrch. Mae’n rhaid iddo ddarparu amrywiaeth o gyfarpar ym mhob gorsaf bleidleisio fel sy’n rhesymol at y dibenion o alluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu wneud hynny’n haws iddynt.

Gall y Swyddog Llywyddu roi cymorth i unrhyw un na all farcio’r papurau pleidleisio eu hunain.1

Fel arall, gall pleidleisiwr ddod â rhywun mae’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i’w helpu i farcio ei bleidlais. Rhaid i’r person sy’n cynorthwyo’r pleidleisiwr fod yn 16 oed neu'n hŷn. Gall person gynorthwyo hyd at ddau bleidleisiwr yn yr etholiad.2

Rhaid i unrhyw berson sy’n mynd i’r orsaf bleidleisio i gynorthwyo etholwr gwblhau datganiad i’r Swyddog Llywyddu cyn iddo gynorthwyo’r etholwr yn y bwth pleidleisio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026