Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd

| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhestr o droseddau

Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer o droseddau etholiadol ac an-etholiadol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun lle bo angen.

Llwgrwobrwyo1 Mae’r drosedd o lwgrwobrwyo’n cynnwys pan fydd rhywun yn rhoi arian yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i unrhyw etholwr neu’n caffael unrhyw swydd iddo, er mwyn cymell unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio.
Tretio2

Mae person yn euog o dretio os yw naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad yn rhoi neu’n darparu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth i ddylanwadu’n llwgr ar unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu i ymatal rhag pleidleisio.

Mae tretio yn gofyn am fwriad llwgr – nid yw’n berthnasol i letygarwch arferol.
 

Dylanwad amhriodol3

Mae person yn euog o ddylanwad amhriodol os ydynt yn ymgymryd â gweithgaredd er diben:

  • Annog neu gymell rhywun i bleidleisio mewn ffordd benodol neu i ymatal rhag pleidleisio
  • Fel arall yn rhwystro neu'n atal arfer rhydd etholfraint etholwr neu ddirprwy dros etholwr

Neu oherwydd:

  • bod person wedi pleidleisio mewn ffordd benodol neu wedi ymatal rhag pleidleisio
  • tybio fod rhywun wedi pleidleisio mewn ffordd benodol neu wedi ymatal rhag pleidleisio

Y gweithgareddau hyn yw:

  • defnyddio trais neu fygwth defnyddio trais yn erbyn person
  • niweidio neu ddinistrio, neu fygwth niweidio neu ddinistrio eiddo person
  • niweidio neu ddinistrio, neu fygwth niweidio neu ddinistrio enw da person
  • achosi neu fygwth achosi colled ariannol i berson
  • achosi anaf ysbrydol, neu roi pwysau ysbrydol gormodol ar berson 
  • gwneud unrhyw weithred arall â'r bwriad o ddychryn person
  • gwneud unrhyw weithred a gynlluniwyd i dwyllo person mewn perthynas â gweinyddu etholiad

Nid yw dylanwad amhriodol yn ymwneud â mynediad ffisegol i’r orsaf bleidleisio yn unig. Er enghraifft, gallai taflen sy’n bygwth defnyddio grym er mwyn cymell pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol fod yn ddylanwad amhriodol hefyd.

Cambersonadu4

Cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall naill ai drwy’r post neu’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, fel etholwr neu fel dirprwy.

Mae'r drosedd hon yn berthnasol os yw'r person sy'n cael ei gambersonadu yn fyw, yn farw neu'n ddychmygol. Mae cynorthwyo, annog, cynghori neu gaffael y trosedd o gambersonadu hefyd yn drosedd.

Datganiadau anwir5
Ynglŷn â chymeriad neu ymddygiad personol ymgeisydd

Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad anwir o ffaith am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd er mwyn effeithio ar ethol ymgeisydd mewn etholiad.

Nid yw datganiadau anwir nad ydynt yn ymwneud â phersonoliaeth neu ymddygiad ymgeisydd yn anghyfreithlon dan gyfraith etholiadol, ond gellid eu hystyried fel enllib neu athrod.

Mae hefyd yn arfer anghyfreithlon gwneud datganiad anwir bod ymgeisydd wedi tynnu’n ôl er mwyn hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd arall.
 

Datganiadau anwir6
Ar bapurau enwebu
Mae’n drosedd rhoi datganiad ar bapur enwebu, a chithau’n gwybod ei fod yn anwir. Er enghraifft, os ydych chi’n gwybod eich bod wedi’ch anghymhwyso rhag cael eich ethol, ni ddylech lofnodi’r cydsyniad ag enwebiad.
Gwybodaeth gofrestru anwir7  a chais anwir am bleidlais bost/drwy ddirprwyMae'n drosedd rhoi gwybodaeth anwir ar ffurflen gais i gofrestru, am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gwybodaeth anwir yn cynnwys llofnod ffug.
Cais anwir i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy8 Mae person yn euog o drosedd os yw’n gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu ddirprwy i ennill pleidlais nad oes ganddo hawl i’w chael neu i amddifadu rhywun arall o’i bleidlais.
Troseddau pleidleisio lluosog a phleidleisio drwy ddirprwy9 Mae amryw o droseddau’n ymwneud â phleidleisio lluosog a phleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys pleidleisio drwy’r post fel etholwr neu ddirprwy pan yn anghymwys yn gyfreithiol i bleidleisio a chymell neu gael rhywun arall i gyflawni’r drosedd.
Torri cyfrinachedd y bleidlais10 Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r broses ethol neu sy’n mynychu rhai trafodion gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi copi o’r gofynion cyfrinachedd swyddogol i bawb sy’n bresennol wrth agor pleidleisiau post neu gyfrif papurau pleidleisio ac i asiantiaid pleidleisio.
Deunyddiau cyhoeddusrwydd yr ymgyrch11 Mae rhai troseddau'n ymwneud yn benodol â deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer ymgyrch etholiadol. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol wedi’i argraffu a rhai deunyddiau digidol gynnwys argraffnod a pheidio ag edrych fel cerdyn pleidleisio. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd yr ymgyrch hefyd beidio â chynnwys datganiad anwir ynghylch cymeriad personol nac ymddygiad ymgeisydd arall.
Nid yw’r Swyddog Canlyniadau na’r Comisiwn yn rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu ac nid ydynt yn gallu rhoi sylwadau ar gyfreithlondeb unrhyw ddeunydd etholiadol penodol y tu hwnt i’r hyn a drafodir yn y canllawiau hyn.
 
Casineb hiliol12 Dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae'n drosedd cyhoeddi neu ddosbarthu deunydd bygythiol, difrïol neu sarhaus y bwriedir iddo ysgogi casineb hiliol neu sy'n debygol o ysgogi casineb hiliol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025