Dylai eich cynllun prosiect gynnwys prosesau i reoli ymholiadau posibl gan arsylwyr a'u helpu i fod yn bresennol yn y prosesau etholiadol y mae ganddynt hawl i fod yn bresennol ynddynt. Dylai hyn gynnwys rhoi gwybodaeth i arsylwyr ynglŷn â lleoliad ac amseriad y prosesau uchod.
Mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn yr hawl hefyd i arsylwi ar y prosesau hyn ac, yn ogystal â hynny, mae ganddynt yr hawl i arsylwi ar eich arferion gwaith.2
Nid oes angen i arsylwyr achrededig na chynrychiolwyr y Comisiwn roi rhybudd ymlaen llaw ynghylch ble y bwriadant arsylwi, ond bydd ganddynt gerdyn adnabod â ffotograff a roddwyd gan y Comisiwn.
Canllaw cyflym i'r mathau o bobl sydd â bathodynnau arsylwi
Y mathau o bobl sydd â bathodynnau arsylwi
Pwy ydynt?
Mynediad
Cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol
Yr un peth ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad i'r broses o ddosbarthu pleidleisiau post, ac arferion gweithio'r Swyddog Canlyniadau a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
Arsylwyr a achredwyd gan y Comisiwn
Yr un peth ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad i'r broses o ddosbarthu pleidleisiau post
Os bydd gennych unrhyw amheuon ynglŷn â statws unigolyn penodol sy'n ceisio cael mynediad i brosesau etholiadol, gallwch edrych ar y rhestrau o arsylwyr ar wefan y Comisiwn am gadarnhad.
Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i ystyried Cod ymarfer y Comisiwn i arsylwyr etholiadol wrth reoli presenoldeb arsylwyr.3
Bydd arsylwyr wedi cytuno i gydymffurfio â'r safonau ymddygiad a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiwn. Os credwch fod y Cod Ymarfer wedi cael ei dorri, rhowch wybod i dîm lleol y Comisiwn.
1. Adran 6C Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA 2000) a pharagraffau 34, 48, 51 a 58, Atodlen 2 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012). ↩ Back to content at footnote 1
2. A.6A Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a pharagraffau 31, 32, Atodlen 2 a pharagraffau 10, 34, 48, 51 a 58, Atodlen 3 PCCEO 2012.↩ Back to content at footnote 2