Mae'r cyfryngau yn chwarae rôl bwysig i roi gwybodaeth i bleidleiswyr am yr etholiad. Mae'n bwysig y caiff gweithgarwch cyfathrebu â'r cyfryngau ei reoli mewn ffordd gydgysylltiedig a chyson drwy'r ardal heddlu gyfan er mwyn cynnal hyder y cyhoedd bod yr etholiad yn cael ei drefnu'n dda. Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol dylai fod proses glir ar waith i ardal yr heddlu sy'n cael ei dilyn gennych chi, Swyddogion Canlyniadau Lleol a'ch timau cyfathrebu priodol er mwyn ymateb i unrhyw faterion sy'n codi.
Dylech sicrhau bod cydgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid wedi'i ymgorffori drwy gydol eich proses gynllunio, gyda threfniadau penodol ar waith i weithio gyda'r cyfryngau, gan gynnwys:
cynlluniau ar gyfer cydgysylltu gweithgarwch cysylltu â'r cyfryngau o fewn ardal yr heddlu, a strategaethau ar gyfer ymdrin â chyfathrebu rhagweithiol a hefyd gysylltu â'r cyfryngau mewn perthynas â digwyddiadau penodol megis dilysu a chyfrif pleidleisiau a datgan y canlyniad
prosesau ar gyfer ymdrin ag ymholiadau cyffredinol gan y cyfryngau
cynlluniau ar gyfer ymdrin yn adweithiol ag unrhyw faterion sy'n codi mewn perthynas â'r etholiad, er enghraifft honiadau o dwyll etholiadol