Guidance for the GLRO administering the GLA elections

Cynllunio ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Er mwyn eich helpu i ateb unrhyw heriau, bydd angen i chi sefydlu prosesau ar gyfer cydweithredu a chyfathrebu effeithiol rhwng y gwahanol Swyddogion Canlyniadau yn eich ardal heddlu.

Bydd angen hefyd i chi roi cynlluniau manwl a chadarn ar waith i fonitro a chynnal uniondeb drwy'r ardal heddlu gyfan.

Mae sawl pwynt allweddol y dylech ei ystyried yn ystod eich cynlluniau ar gyfer yr etholiadau hyn, gan gynnwys:

  • a ydych wedi trefnu pleidleisiau cyfun yn eich ardal heddlu, a graddau unrhyw gyfuno o'r fath
  • y posibilrwydd o gyfuno unrhyw is-etholiadau â'r etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • nifer y pleidleiswyr a ragwelir a sut mae hyn yn effeithio ar bob cam o'ch gwaith cynllunio ar gyfer yr etholiad
  • gwybodaeth a phrofiad Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal a'r prosesau sy'n rhan o'r math hwn o etholiad
  • rheoli proses anerchiadau etholiadol ymgeiswyr, gan gynnnwys lanlwytho datganiadau ymgyrch ymgeiswyr i'r wefan
  • gwybodaeth a phrofiad ymgeiswyr ac asiantiaid, gyda'r posibilrwydd y bydd nifer sylweddol o ymgeiswyr newydd neu lai profiadol a'r posibilrwydd y bydd mwy o ymholiadau na'r niferoedd rydych yn gyfarwydd ag ymateb iddynt mewn etholiadau eraill
  • unrhyw newidiadau i'r dirwedd wleidyddol drwy'r ardal heddlu gyfan, neu unrhyw rannau ohoni, ac unrhyw effaith sy'n deillio o hyn
  • cryn sylw gan bleidleiswyr, ymgeiswyr a'r cyfryngau a sut rydych yn rheoli disgwyliadau unrhyw randdeiliaid sydd â diddordeb yn y canlyniad

Bydd yr etholiadau hyn yn achosi eu heriau penodol eu hunain, a'ch gwaith chi yw cynnal etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sydd wedi'i drefnu'n dda a all gael cryn sylw – gan bleidleiswyr, ymgeiswyr a'r cyfryngau.

Dylech ystyried a dysgu gwersi o brofiadau o bob etholiad diweddar yn eich ardal.

Natur etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Bydd yr etholiadau yn golygu cyd-drefnu ar draws ffiniau nifer o ardaloedd awdurdod lleol, gan gynnwys strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd sydd wedi'i chyd-drefnu.  

Gallai'r dirwedd wleidyddol newidiol olygu, hyd yn oed mewn mannau lle y bu mwyafrifoedd mawr yn draddodiadol, na fydd hyn yn wir mwyach, gan olygu y gallai'r ffocws a'r amgylchiadau fod yn wahanol i unrhyw beth a brofwyd yn eich ardal o'r blaen.

Efallai y bydd nifer o ymgeiswyr ac asiantiaid newydd neu lai profiadol sy'n anghyfarwydd ag arferion a phrosesau etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt er mwyn gallu cymryd rhan yn effeithiol. Mae'n bosibl bod y rhai sy'n fwy profiadol wedi cael profiad cyfyngedig o sefyll etholiad i fod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. 

O ystyried y posibilrwydd o etholiadau agos sy'n cael eu hymladd yn galed, dylech fod yn barod am sylw mawr i uniondeb yr etholiadau. Bydd honiadau ac achosion o dwyll etholiadol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar hyder etholwyr ac ymgyrchwyr, ond gallant hefyd gael effaith sylweddol ar eich gallu i reoli'r broses etholiadol yn effeithiol. 

Felly, mae'n hollbwysig eich bod:

  • yn rhoi cynlluniau manwl a chadarn ar waith i fonitro a chynnal uniondeb yr etholiadau yn eich ardal
  • yn gweithio'n agos gyda'r heddlu lleol, gan sicrhau bod gennych linellau cyfathrebu da ar waith ar gyfer atgyfeirio unrhyw honiadau.

Maint a'r nifer sy'n pleidleisio

Bydd angen i sawl agwedd ar gynllunio'r etholiadau adlewyrchu tybiaethau o ran y niferoedd sy'n debygol o bleidleisio. Mae'n hollbwysig eich bod yn llunio rhagdybiaethau o'r fath ar gam cynnar yn y gwaith cynllunio gan nad oes fawr ddim cyfle i addasu cynlluniau yn ddiweddarach yn y broses. Mae heriau bob amser o ran datblygu rhagdybiaethau cynllunio o'r fath, gan ei bod yn aml yn anodd rhagweld cyn cyfnod yr etholiad faint o bobl sy'n debygol o bleidleisio yn yr etholiadau penodol. 

O ystyried y posibilrwydd y bydd cryn ddiddordeb yn yr etholiadau, na fydd rhywfaint o hynny'n dod i'r amlwg tan yn agos i'r etholiadau, dylai'r posibilrwydd o niferoedd mawr yn pleidleisio gael ei adlewyrchu ym mhob agwedd ar y gwaith cynllunio ar gyfer yr etholiadau. 

Wrth i'r etholiadau nesáu, bydd y cyd-destun yn parhau i newid wrth i'r ymgyrchoedd ddatblygu. Bydd angen i chi fod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau a allai gael effaith ar gynnal yr etholiadau'n effeithiol, a fydd yn cynnwys cael cynlluniau wrth gefn cadarn i'w rhoi ar waith os bydd angen. 

Mewn unrhyw etholiad ceir y posibilrwydd y bydd nifer mawr o geisiadau i gofrestru a cheisiadau am dystysgrifau awdurdod pleidleiswyr yn cael eu gwneud yn agos i'r dyddiad cau. Dylid disgwyl hyn a'i ymgorffori yng ngwaith cynllunio Swyddogion Canlyniadau Lleol, gan adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol o brofiadau digwyddiadau etholiadol diweddar. 

Bydd nifer y pleidleiswyr hefyd yn effeithio ar gynllunio ar gyfer prosesau dilysu a chyfrif. Mae'n hollbwysig bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau bod prosesau dilysu a chyfrif mor gywir ac effeithlon â phosibl. Bydd angen i chi gydgysylltu amseriad a threfniadau dilysu a chyfrif er mwyn sicrhau y cânt eu cynnal mewn modd amserol ac effeithiol drwy'r ardal heddlu gyfan. 

Bydd amrywiaeth o ffactorau eraill yn effeithio ar y ffordd y caiff y broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau ei rheoli ym mhob ardal heddlu – bydd maint, poblogaeth, daearyddiaeth a demograffeg ardal yr heddlu, a faint o etholiadau sy'n cael eu cyfuno, os o gwbl, i gyd yn cael effaith ar yr opsiynau sydd ar gael i reoli'r rhan hon o'r broses. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am ymgysylltu ac ymgynghori'n gynnar ynglŷn â sut y caiff y rhain eu rheoli.

Gallai sylw'r cyfryngau ar y broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau a datgan y canlyniad fod yn sylweddol. Bydd yn bwysig rheoli disgwyliadau, nid yn unig o ran y cyfryngau ond hefyd bawb sydd â diddordeb yn y canlyniadau, drwy ymgynghori ar eich dull arfaethedig o weithredu ac wedyn nodi'n glir yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud ac erbyn pryd, yn enwedig pan fydd etholiadau cyfunol yn effeithio ar eich amseroedd datgan canlyniadau disgwyliedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023