Guidance for the GLRO administering the GLA elections

Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid

Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, rydych yn gyfrifol am bob agwedd ar y broses enwebu yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Dylai eich cynllun prosiect gynnwys manylion am sut y byddwch yn ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid a sut y byddwch yn rheoli'r broses enwebu.

Dylai fod yn syml i'r rhai sy'n ymgyrchu gymryd rhan mewn etholiadau. Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, chi sy'n gyfrifol am roi cynllun cyfathrebu effeithiol ar waith. Dylech weithio gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol i gyd-drefnu gweithgarwch ymgysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid drwy'r ardal heddlu gyfan, a rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid yn cael gwybodaeth glir ac amserol. Dylech gynllunio ar gyfer sesiynau briffio i ymgeiswyr ac asiantiaid yn gynnar yn ystod y broses etholiadol . 

Dylech ystyried a oes unrhyw amgylchiadau lleol penodol neu wybodaeth leol y bydd eich Swyddogion Canlyniadau Lleol am eu cyfleu o bosibl megis amseriad a lleoliad agor pleidleisiau drwy'r post a'r cyfrif ac a fydd hyn yn rhan o'ch deunydd cyfathrebu neu a fydd y Swyddogion Canlyniadau Lleol yn darparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'w hardaloedd. 

Dylech gymryd camau ar gam cynnar i amcangyfrif faint o ymgeiswyr a allai sefyll etholiad gan y gall hyn gael effaith sylweddol ar wahanol elfennau o'r broses etholiadol, gan gynnwys argraffu papurau pleidleisio, enwebiadau, rheoli'r broses o roi gwybodaeth i ymgeiswyr, a'r broses dilysu a chyfrif. Er mwyn llunio'r amcangyfrif hwn, a pharhau i'w adolygu, dylech ystyried faint o ymgeiswyr a safodd yn ystod yr etholiad diwethaf i ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu, cysylltu'n gynnar â phleidiau gwleidyddol, monitro unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb a, maes o law, fonitro ceisiadau am becynnau enwebu. 

Efallai y bydd nifer sylweddol o ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol newydd neu lai profiadol, sy'n anghyfarwydd ag arferion a phrosesau sefyll etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt i allu cymryd rhan yn effeithiol. Felly, mae'n bwysig eich bod yn ymgysylltu ag ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau cymaint â phosibl fel eu bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i sefyll etholiad a bod ganddynt hyder bod y prosesau yn cael eu rheoli'n dda. 

Mae'n hollbwysig bod pob ymgeisydd yn gwybod yr hyn sydd angen iddo ei wneud er mwyn sefyll etholiad, beth yw'r terfynau gwariant, sut y gall gael gafael ar y cofrestrau etholiadol a beth yw'r cyfyngiadau o ran defnyddio'r cofrestrau, gan gynnwys ystyriaethau diogelu data. Un anhawster sy'n debygol o wynebu Swyddogion Canlyniadau Ardaloedd Heddlu yw nad yw'r sawl sy'n bwriadu sefyll etholiad bob amser yn cysylltu â staff etholiadau cyn cyflwyno eu papurau enwebu. Felly, bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo argaeledd gwybodaeth a sesiynau briffio i bob ymgeisydd ac asiant cyn iddynt gwblhau a chyflwyno eu papurau enwebu. 

Bydd angen i chi gael trafodaethau â Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol er mwyn penderfynu sut y byddwch yn cael copïau o'r gofrestr etholiadol i ymgeiswyr a sut rydych yn bwriadu gwneud y gwiriadau o lofnodwyr ymgeisydd sy'n ofynnol yn ystod y cyfnod enwebu. 

Bydd angen i chi sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion ynglŷn â chynnwys anerchiadau etholiadol ymgeiswyr, ochr yn ochr â'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno'r anerchiadau hynny.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023