Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Rheoli a chydgysylltu'r etholiad
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwybodaeth a phrofiad lleol ac nad oes 'un ateb i bawb' y gellir ei gymhwyso at bob ardal heddlu, neu hyd yn oed o fewn ardal heddlu. Bydd gan bob ardal heddlu ei hamgylchiadau ei hun a fydd yn dylanwadu ar eich penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd orau o sicrhau profiad cyson o safon uchel i'r rhai sy'n pleidleisio ac yn sefyll etholiad drwy'r ardal heddlu gyfan.
Mae etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn un etholiad a gynhelir mewn nifer o ardaloedd awdurdod lleol. Felly, dylech ystyried ar gam cynnar sut y byddwch yn sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu i safon gyson drwy'r ardal heddlu gyfan, fel y bydd pleidleiswyr yn cael gwasanaeth o safon gyson uchel ni waeth ble maent yn byw ac fel y bydd yr etholiad yn arwain at ganlyniad a dderbynnir. Dylai hyn gael ei adlewyrchu yn yr amcanion a'r mesurau llwyddiant a nodir yn eich cynllun prosiect , gan gynnwys a ydych wedi rhoi (neu'n bwriadu rhoi) canllawiau, ac a ydych wedi defnyddio (neu'n bwriadu defnyddio) eich pŵer i roi cyfarwyddiadau, ac os felly sut rydych wedi gwneud hynny.
Bydd agweddau ar y broses etholiadol lle y byddwch yn awyddus iawn i sicrhau cysondeb, yn enwedig yn y meysydd sy'n effeithio ar brofiad y pleidleiswyr – er enghraifft, sut y bydd Swyddogion Canlyniadau Lleol yn cyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn hygyrch i bob pleidleisiwr, anfon cardiau pleidleisio a phleidleisiau post, a staffio gorsafoedd pleidleisio – a hefyd mewn perthynas â dilysu a chyfrif pleidleisiau.
Mae amrywiol adnoddau ar gael i chi er mwyn sicrhau cysondeb. Chi sy'n penderfynu, yn seiliedig ar ffactorau megis eich gwybodaeth, eich profiad a'ch cydberthnasau â'r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal, a chan ystyried materion cwmpas a graddfa, y ffordd orau o gyflawni'r amcanion a nodwyd yn eich cynllun etholiadol. Mae'ch pŵer i gyfarwyddo yn un adnodd sydd ar gael i chi ei ddefnyddio, ond chi sy'n penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddiadau, ar ba faterion, ac i bwy.
Cewch hefyd ddewis rhoi canllawiau ysgrifenedig i Swyddogion Canlyniadau Lleol ar agweddau penodol ar yr etholiad. Er mwyn rheoli'r broses o goladu'r canlyniad yn effeithiol, dylech roi protocol ar waith ar gyfer trosglwyddo a derbyn cyfansymiau dilysu a chyfrif lleol. At hynny, dylech drefnu hyfforddiant a/neu sesiynau briffio i Swyddogion Canlyniadau Lleol a'u staff ar brotocolau o'r fath.
Pan fydd yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael ei gyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall, ni fydd modd defnyddio'r pŵer i gyfarwyddo ar gyfer rhai agweddau ar y broses, yn dibynnu ar ba Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol amdanynt yn ymarferol. Felly, bydd adnoddau eraill i sicrhau cysondeb – megis cydweithredu ac ymgynghori – yn hollbwysig.
Dylai eich cynllun prosiect adlewyrchu sut a phryd y byddwch yn penderfynu ar y ffordd y byddwch yn rheoli ac yn cydgysylltu'r etholiad yn eich ardal heddlu a sut y byddwch yn rhoi hyn ar waith yn ymarferol. Dylai hefyd gynnwys strategaeth gyfathrebu er mwyn ategu'r gwaith hwn.
Dylech o leiaf roi prosesau ar waith ar gyfer monitro'r ffordd y cynhelir etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy'r ardal heddlu gyfan, gan gynnwys cydymffurfiaeth ag unrhyw gyfarwyddiadau a/neu ganllawiau a roddwyd gennych. Dylech feddwl am y ffordd y byddwch yn helpu Swyddogion Canlyniadau Lleol eraill a gweinyddwyr etholiadol yn yr ardal i reoli'r etholiadau ac ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi.
Bydd timau'r Comisiwn ledled Cymru a Lloegr ar gael i'ch cynorthwyo drwy gydol etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Byddwn yn cynnwys rhagor o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer cynorthwyo a monitro mewn unrhyw etholiadau a drefnwyd mewn bwletin yn y dyfodol.