Rhoi gwybodaeth am gael gafael ar y gofrestr etholiadol
Unwaith y daw person yn ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel y'i diffiniwyd yn y paragraffau isod, gall ofyn am gopi o'r gofrestr lawn a rhestrau o bleidleiswyr absennol sy'n cwmpasu ardal yr heddlu lle mae'n sefyll etholiad. Dim ond os yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais ysgrifenedig y gellir darparu cofrestrau.1
Y dyddiad cynharaf y gall person ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad (h.y. y 25ain diwrnod gwaith cyn yr etholiad).2
Bydd yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y diwrnod hwn os bydd eisoes wedi datgan ei fod/bod yn ymgeisydd yn yr etholiad (neu os bydd person arall wedi datgan ei fod/bod yn ymgeisydd) ar neu cyn y dyddiad hwn.
Os bydd y person hwn neu eraill yn datgan y bydd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar ôl y dyddiad hwn, daw yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir y cyfryw ddatganiad, neu ar y dyddiad y mae'n cyflwyno papurau enwebu, p'un bynnag sydd gyntaf.
Er mai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob ardal bleidleisio sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am dderbyn ceisiadau a darparu cofrestrau i ymgeiswyr, dylech ddechrau trafodaethau â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gam cynnar er mwy penderfynu ar y ffordd orau o sicrhau y gellir darparu cofrestrau i bob ymgeisydd yn y fath fodd ag y bydd ganddynt fynediad amserol a hawdd atynt, a phenderfynu sut y dylid cyfleu hyn.
Er enghraifft, gallech benderfynu darparu'r cofrestrau'n ganolog ar ran y Swyddogion Cofrestru Etholiadol fel rhan o'r pecyn enwebu. Mantais y dull gweithredu hwn yw y gallai weithredu fel mai dim ond un ffurflen gais ar gyfer yr holl ardaloedd pleidleisio y byddai angen i ymgeiswyr ei chwblhau ac y byddent yn derbyn eu cofrestrau o un man, yn hytrach na gorfod cysylltu â phob Swyddog Cofrestru Etholiadol ar wahân gyda cheisiadau unigol.
Os ydych yn ystyried darparu'r cofrestrau'n ganolog, bydd yn rhaid i chi drafod a chytuno â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol sut y gellid dwyn y gwahanol gofrestrau ynghyd ac yna eu darparu ac ystyried sut y byddai hyn yn gweithio ar gyfer copïau argraffedig a chopïau data. Rhaid i'r cofrestrau gael eu darparu ar ffurf data oni ofynnir yn benodol am gopi argraffedig.3
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cyfleu'n glir i ymgeiswyr a'u hasiantiaid pa drefniadau bynnag a rowch ar waith er mwyn eu galluogi i ddefnyddio'r cofrestrau i ymgyrchu a chael y llofnodwyr angenrheidiol.
1. Para 2, Atodlen 1 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012)↩ Back to content at footnote 1