Mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau llywodraeth leol a Swyddogion Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol), yn ôl y gyfraith, anfon cardiau pleidleisio cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.
Er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael yr un wybodaeth tua'r un pryd, ni waeth ble maent yn byw yn ardal yr heddlu, dylech gysylltu â Swyddogion Canlyniadau llywodraeth leol a Swyddogion Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol) er mwyn trafod amseriadau ar gyfer darparu cardiau pleidleisio, a chytuno arnynt.1
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynhyrchu cardiau pleidleisio yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n cynnal etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Yn Essex, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Northampton a Swydd Stafford, mae'r ymgeisydd a etholir i rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub. Yn yr ardaloedd heddlu hyn, rhaid i'r cardiau pleidleisio gyfeirio at yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ar gyfer ardal yr heddlu [nodwch enw ardal yr heddlu].2