Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cynhyrchu cardiau pleidleisio

Chi sy'n gyfrifol am anfon cerdyn pleidleisio swyddogol ar gyfer yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu at etholwyr a'u dirprwyon.1 Rhaid i'r cardiau pleidleisio ddilyn y ffurf benodedig a nodir mewn deddfwriaeth. Rhaid i chi sicrhau bod pob cerdyn pleidleisio yn cynnwys yr holl elfennau a nodir yn rheolau'r etholiad ac a ddangosir ar flaen ac ar gefn y cardiau pleidleisio yn yr atodiad.2  

Dylech gysylltu â'ch enw cyswllt yn y Post Brenhinol (neu gwmni dosbarthu masnachol) ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod gennych drwyddedau priodol ar waith a bod y cerdyn pleidleisio yn bodloni gofynion dosbarthu penodol.

Dylai cardiau pleidleisio gael eu hanfon at etholwyr a'u dirprwyon cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.

Os byddwch yn gosod y gwaith o gynhyrchu'r cardiau pleidleisio ar gontract allanol, bydd angen i chi anfon eich data cardiau pleidleisio at eich argraffwyr a dylech sicrhau bod eich meddalwedd yn gallu llunio ffeil ddata y gall eich argraffwyr ei defnyddio i baratoi'r deunyddiau yn unol â'r fanyleb sydd ei hangen. 

Ar gam cynnar yn eich trafodaethau â'ch argraffwyr, dylech fod wedi nodi ym mha fformat y byddwch yn cyflenwi'r data ac ym mha fformat y byddant yn anfon unrhyw broflenni atoch, a dylai hyn gael ei nodi yn eich manyleb a'ch contract.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddatblygu contractau ar gyfer gwaith ar gontract allanol a qwiriadau sicrhau ansawdd.

Sypiau dilynol o gardiau pleidleisio

Rhaid i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Mae'r hysbysiadau hyn yn helpu i sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu dosbarthu'n brydlon i'r etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru yn agos i'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.3 Rhaid i'r hysbysiad interim cyntaf o newid gael ei gyhoeddi ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, sef y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais.4

Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn sicrhau y gall amseriad cyhoeddi'r ail hysbysiad interim ategu llunio eich ail set o gardiau pleidleisio. Rhaid i'r ail hysbysiad interim gael ei gyhoeddi rhwng y diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu a'r chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais (yn gynhwysol).5  

Dylid anfon diweddariad o'r data cofrestru sy'n deillio o bob un o'r hysbysiadau newid at eich argraffwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel y gellir llunio cardiau pleidleisio ar gyfer etholwyr newydd. 

Ceir rhagor o wybodaeth am hysbysiadau interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru neu Loegr.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau pellach ar ddosbarthu cardiau pleidleisio

Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu

Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.

Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mai 2025