Ni ragnodir lliw'r papurau pleidleisio, na'r lliw a ddefnyddir ar gyfer papurau pleidleisio a gyflwynwyd, ond mae'n rhaid i liw papurau pleidleisio a gyflwynwyd fod yn wahanol i liw papurau pleidleisio arferol.1
Fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, dylech benderfynu'n gynnar pa liw fydd y papurau pleidleisio yn eich ardal heddlu a gweithio'n agos gyda'r holl Swyddog Canlyniadau Lleol er mwyn penderfynu ar y lliw a ddefnyddir.
Mewn etholiadau cyfun, mae'n rhaid defnyddio papurau pleidleisio o wahanol liw ar gyfer pob etholiad.2
Dylech hefyd ystyried ymgynghori â chyflenwyr argraffu ynglŷn â'r lliw er mwyn sicrhau nad yw eich dewis yn achosi anawsterau cyflenwi neu gynhyrchu.