Mae'r Comisiwn wedi datblygu canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol ar ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus mewn etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Maent ar gael yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac mewn llyfryn ar wahân ar ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus.
Mae'r llyfryn papur pleidleisio amheus yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu darpariaethau Deddf Etholiadau 2022.
Dylech ystyried sut y byddwch yn gweithio gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal heddlu er mwyn sicrhau y cyflwynir dyfarniadau cyson ar y papurau pleidleisio ar gyfer yr ardal heddlu gyfan. Dylai hyn gynnwys ystyried yr angen i ddarparu sesiynau briffio neu hyfforddi i Swyddogion Canlyniadau Lleol a ph'un a ydych am roi unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddiadau ychwanegol iddynt o ran sut y dylent ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus.
Mae'r broses o gategoreiddio a chofnodi papurau pleidleisio a wrthodwyd yn ôl y rhesymau dros eu gwrthod yn rhan bwysig o'r trywydd archwilio ar gyfer y cyfrif, gan ennyn hyder yn y canlyniad. Dylech ystyried sut i sicrhau bod Swyddogion Canlyniadau Lleol yn deall sut y dylid categoreiddio papurau pleidleisio a wrthodwyd a sut y gellir cofnodi'r wybodaeth hon yn gywir.
.