Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Y broses goladu
Mae'r gyfraith yn nodi'r broses o goladu canlyniadau y mae'n rhaid ei dilyn. Mae'r camau allweddol fel a ganlyn:
Coladu'r ffigurau dilysu
- Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol) ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer ei ardal bleidleisio a llunio datganiad ar ganlyniad y broses ddilysu.1
- Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol (fel y bo'n briodol) hysbysu'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu am ei ddatganiad dilysu.2
- Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu goladu'r holl ffigurau dilysu ar gyfer ardal yr heddlu er mwyn canfod cyfanswm y papurau pleidleisio sy'n mynd ymlaen i'r cyfrif ar gyfer yr ardal heddlu gyfan.3
- Pan gaiff y pleidleisiau eu cyfrif mewn lleoliad gwahanol i'r man y cynhaliwyd y broses ddilysu, gallwch gyfarwyddo Swyddogion Canlyniadau Lleol i gynnal gweithdrefnau dilysu penodol pellach mewn perthynas â'r papurau pleidleisio a'r dogfennau sy'n ymwneud ag etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.4
Coladu cyfansymiau'r cyfrif
- Pan fydd y cyfrif wedi'i gwblhau, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol rannu'r ffigurau â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol. Gall ymgeiswyr, asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif hynny sydd wedi'u hawdurdodi'n benodol i wneud hynny, ofyn am ailgyfrif.5
- Pan fydd yr ymgeiswyr a'r asiantiaid wedi cael cyfle i wirio'r ffigurau (a phan fydd unrhyw ailgyfrif wedi'i gwblhau), rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol lunio datganiad o gyfansymiau lleol yn cynnwys nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chyfanswm y papurau pleidleisio a wrthodwyd, a datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd wedi'u categoreiddio yn ôl y rheswm dros eu gwrthod.6
- Rhaid i bob Swyddog Canlyniadau Lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu am y datganiad o gyfansymiau lleol.7
- Cyn y gall y Swyddog Canlyniadau Lleol hysbysu'r ymgeiswyr a'r asiantiaid am gynnwys y datganiadau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd a chyfansymiau lleol a chyhoeddi hysbysiad, rhaid iddo fod wedi cael awdurdod gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu.
- Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu goladu'r cyfansymiau lleol ar gyfer ardal yr heddlu a dderbyniwyd gan Swyddogion Canlyniadau Lleol. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu dderbyn yr holl gyfansymiau lleol ar gyfer ardal yr heddlu, rhaid iddo gyfrifo cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd yn ardal yr heddlu.
- Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu rannu'r ffigurau perthnasol â'r asiantiaid etholiad sy'n bresennol a rhaid iddo roi cyfle rhesymol iddynt fodloni eu hunain ynghylch cywirdeb y cyfrifiad. Gall asiant etholiad wneud cais am ailgyfrif ond gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wrthod gwneud hynny os yw'r cais yn afresymol yn ei farn ef.8
- Pan fydd yr asiantiaid wedi cael cyfle i wirio'r ffigurau (a phan fydd unrhyw ailgyfrifiad wedi'i gwblhau), rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ddatgan y canlyniad fel a ganlyn.
Mae rhagor o ganllawiau ar y prosesau y bydd angen i chi eu dilyn ar ôl datgan y canlyniad, gan gynnwys rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r canlyniad, yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar Ar ôl yr etholiad.
- 1. Paragraff 49, Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 49, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 49(6), Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 50, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 52, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Para 57, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 57, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 59, Atodlen 3, PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 8
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Rhagfyr 2023